Noddwyd Gwobr Partneriaeth Awdurdod Lleol drwy garedigrwydd YELL.
Mae’r wobr hon yn agored i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Fe fydd Awdurdodau Lleol yn cael eu henwebu i gydnabod eu gwaith mewn partneriaeth â’u cymuned leol.
Er y bydd y wobr yn mynd i’r Awdurdod Lleol yn ei gyfanrwydd, mae mudiadau yn gallu nodi bod yr enwebiad yn cydnabod person, prosiect neu adran benodol o fewn yr awdurdod lleol.
Dylai ceisiadau fod yn seiliedig ar waith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf - h.y. Gorffennaf 2009-10.
Mae’r awgrymiadau o dan bob pennawd yn arweiniad yn unig, ac nid ydynt yn cynrychioli unrhyw feini prawf ar gyfer y wobr.
Nid oes angen i chi ddarparu gwybodaeth na data atodol. Ond, efallai y bydd Cylch yn gofyn am weld unrhyw ddata y cyfeirir ato yn ystod y broses feirniadu.
Ceisiwch gadw o fewn y nifer o eiriau a nodwyd os gwelwch yn dda. Efallai bydd ceisiadau sy’n rhy hir yn cael eu dychwelyd er mwyn eu cwtogi.