Noddwyd Gwobr Cyfraniad Rhagorol 2010 drwy garedigrwydd Aylesford Newsprint.
Gofynion cais:
• Rhaid bod enwebeion yn gweithredu o fewn y maes ailgylchu yng Nghymru.
• Gallant fod yn rhan o’r sector cyhoeddus, preifat neu gymunedol.
• Ni ddylai enwebeion fod yn weithiwr neu’n un o ymddiriedolwyr Cylch nac unrhyw gwmni perthnasol arall.
• Ni dderbynnir unrhyw hunan enwebiadau.
• Fodd bynnag, rydyn ni’n derbyn enwebiadau gan unigolion sy’n gweithio i’r un cwmni â’r enwebai.
• Bydd enwebiadau yn seiliedig ar weithgareddau a wnaed dros y 12 mis diwethaf.
Ceisiwch gadw o fewn y nifer o eiriau a nodwyd os gwelwch yn dda. Efallai bydd ceisiadau sy’n rhy hir yn cael eu dychwelyd er mwyn eu cwtogi.