Noddwyd Gwobr Arloesi drwy garedigrwydd WRAP.
Diffinnir arloesedd fel rhoi syniad newydd ar waith yn llwyddiannus.
Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw fudiad neu gwmni sy’n weithgar ym maes ailgylchu yng Nghymru.
Fe fydd yn gwobrwyo’r rheiny sydd wedi datblygu prosiect, cynnyrch, gweithgaredd neu wasanaeth ailgylchu arloesol neu sydd wedi rhagori yn unrhyw un o’r meysydd canlynol yn y 12 mis diwethaf:
• Taclo problem gyffredin mewn ffordd newydd neu eithriadol
• Pwynt gwerthu unigryw
• Dargyfeirio defnydd newydd rhag safle claddu sbwriel
• Trosglwyddo gwasanaeth unigryw
• Gwneud cynnyrch newydd arloesol
• Marchnata cynnyrch neu wasanaethau mewn ffordd greadigol a diddorol
Dylai ceisiadau fod yn seiliedig ar waith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf - h.y. Gorffennaf 2009-10.
Mae’r awgrymiadau o dan bob pennawd yn arweiniad yn unig, ac nid ydynt yn cynrychioli unrhyw feini prawf ar gyfer y wobr.
Nid oes angen i chi ddarparu gwybodaeth na data atodol. Ond, efallai y bydd Cylch yn gofyn am weld unrhyw ddata y cyfeirir ato yn ystod y broses feirniadu.
Ceisiwch gadw o fewn y nifer o eiriau a nodwyd os gwelwch yn dda. Efallai bydd ceisiadau sy’n rhy hir yn cael eu dychwelyd er mwyn eu cwtogi.