A A A

Test

Ailgylchi Cymunedol y Flwyddyn 2010 - Ffurflen gais

Noddwyd Gwobr Ailgylchi Cymunedol y Flwyddyn drwy garedigrwydd Novelis.

Mae'r wobr hon yn agored i holl aelodau cyflawn Cylch, a chaiff ei rhoi i’r fenter sydd wedi arddangos rhagoriaeth naill ai mewn rhai neu ym mhob un o’r meysydd canlynol.

Bydd yr enillydd yn derbyn £2000, a thlws unigryw o wydr ailgylchedig a grëwyd gan Ten Green Bottles sy’n aelodau o Cylch.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu disgrifiad cryno o’i mudiad, ei nodau a’i brif weithgareddau ynghyd â gwybodaeth sy’n ateb y meini prawf canlynol.

Dylai’r ceisiadau fod yn seiliedig ar waith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf, h.y. Gorffennaf 2009-10.

Ceisiwch gadw o fewn y nifer o eiriau a nodwyd os gwelwch yn dda. Efallai bydd ceisiadau sy’n rhy hir yn cael eu dychwelyd er mwyn eu cwtogi.

Sefydliad Enwebedig

Nodwch fanylion eich mudiad enwebedig isod. Os nad ydych yn gweithio i’r mudiad yr ydych yn ei enwebu, nodwch eich manylion cyswllt ar wahân.

Rhowch ddisgrifiad cryno o’ch mudiad
Gwybodaeth Ychwanegol

Cwblhewch weddill y ffurflen gyda’r wybodaeth berthnasol (uchafswm o 70 gair ym mhob bocs).
Gall grwpiau sgorio uchafswm o 10 pwynt am bob meini prawf. Dylai’r ceisiadau fod yn seiliedig ar waith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf.

Darparu cymwysterau, lleoliadau gwaith neu hyfforddiant

Unrhyw fuddiannau ychwanegol i’r gymuned leol.
Sut y mae bywyd wedi gwella yn yr ardal leol?
A ydy gwerth deunyddiau wedi cael ei gadw yn y gymuned?

Tystiolaeth bod y mudiad yn symud tuag at gynaladwyedd ariannol.
Er enghraifft, a yw canran o’r incwm yn deillio o weithgareddau masnachol neu debyg sydd ddim yn rhan o gyllid grant?
Oes gennych gynlluniau neu ragolygon i eneradu incwm yn y dyfodol?

Yr ystod o ddeunyddiau a gesglir, nifer y tunelli sy’n cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi, neu ffrydiau gwastraff ‘anodd’ y mae’r mudiad wedi’u datrys.
Hefyd, gwybodaeth am unrhyw gynnydd mewn tunelli neu ddeunyddiau a gesglir.
Os nad yw eich mudiad yn ymdrin yn uniongyrchol â deunyddiau, esboniwch sut yr ydych chi wedi cyfrannu at y broses o ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi - er enghraifft, trwy godi ymwybyddiaeth neu weithgareddau eraill?

Tystiolaeth o ryngweithio â mudiadau ailgylchu cymunedol.
Er enghraifft, rhannu gwybodaeth neu weithio mewn partneriaeth gydag eraill o fewn y sector.

Trosglwyddo neges ailgylchu gref; codi proffil eich hun a’r sector.