A A A

Test

Masnachu Carbon

Cynhyrchir allyrion carbon neu allyrion cyfwerth (CO2e) bob tro y caiff cynnyrch ei wneud. Bydd ailddefnyddio neu ailgylchu eitem yn osgoi’r allbwn carbon sy’n gysylltiedig â chynhyrchu eitem newydd.

Mae gan fudiadau ailddefnyddio ac ailgylchu cymunedol ran bwysig i chwarae mewn lleihau allyrion carbon. Mae Cylch yn ymchwilio i effaith gweithgarwch Aelodau ar newid hinsawdd. Mae Cylch hefyd yn ymchwilio i ddatblygiad credyd carbon cymunedol fel ffrwd bosib o gyllid i Aelodau.

Caiff yr ymchwil hwn ei wneud mewn partneriaeth â Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Llundain a Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Yr Alban.

Ein bwriad yw cynhyrchu ffynonellau newydd o gyllid drwy werthuso cyfraniad y Rhwydweithiau Ailgylchu Cymunedol tuag at leihau allyrion carbon Prydain.

Rydyn ni hefyd yn bwriadu:

  • Datblygu ffrwd gref o gyllid carbon y gall mudiadau ailgylchu cymunedol ledled Prydain ei defnyddio i wneud arian a chyfalaf buddsoddi.
  • Datblygu safonau, methodolegau a phrosesau i fesur a monitro allyrion carbon y gwahanol ffrydiau o ddeunyddiau.
  • Datblygu isadeiledd i alluogi i fudiadau ailgylchu cymunedol wneud adroddiadau am allyrion carbon ac allyrion cyfwerth.
  • Amddiffyn a hyrwyddo’r ‘rhwydwaith ailgylchu cymunedol’ a’i gynorthwyo i wneud cyfraniad sylweddol, mesuradwy tuag at leihau allyrion.

Mae’r prosiect yn edrych am fewnbwn gan amrywiaeth o hapddalwyr gan gynnwys aelodau o bob math yn y Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol. Swyddogaeth y bartneriaeth fydd cydlynu rhaglen Ymchwil Gweithgarwch gydag aelodau’n cymryd rhan mewn cynorthwyo i ddatblygu ffordd seml ond sicr o fesur allyrion carbon a’r arbedion a wneir.

Cliciwch yma  i lawrlwytho mwy o fanylion ynglyn â phrisio Carbon.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ken Moon, y Swyddog Prisio Carbon 

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010