Mae'r rhain yn amrediad o fanteision a gynigiwn i'n haelodau;
Manteision aelodaeth lawn (Aelodau Gweithredol):
- Cyfle i wneud cais i Gynllun Buddsoddi Cylch
- Cydgordio gweithgareddau â gweithgareddau aelodau eraill, cydweithio a rhwydweithio
- Rhaglen flynyddol o hyfforddiant a digwyddiadau, yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol a diwrnodau arbenigol yn ymdrin â gwastraff ac ailddefnyddio
- Dylanwadu ar gyfeiriad strategol Cylch, a’r sector yn gyffredinol, yng Nghyfarfodydd Cynghorau Rhanbarthol Cylch (dau gyfarfod y flwyddyn)
- Cyfle i ddod yn aelod o Fwrdd Cylch a hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol
- Cyhoeddiadau Cylch, yn cynnwys yr e-fwletin rheolaidd
- Sylw yn yr e-fwletin
- Llais a chynrychiolaeth ar lefel sector drwy aelodaeth Cylch o bwyllgorau strategol, wedi ei gefnogi gan ymgyrch casglu data blynyddol Let's Prove It!
- Cymorth gyda’r cyfryngau
- Lle ar wefan Cylch
- Lle yn chwiliadur Craff am Wastraff – adnodd sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gan Cylch
- Manteisio ar y gwaith datblygu mae Cylch yn ei wneud ar ran y sector
Manteision aelodaeth lawn (Aelodau Datblygol):
- Cyfle i wneud cais i Gynllun Buddsoddi Cylch
- Rhaglen flynyddol o hyfforddiant a digwyddiadau, yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol a diwrnodau arbenigol yn ymdrin â gwastraff ac ailddefnyddio
- Dylanwadu ar gyfeiriad strategol Cylch, a’r sector yn gyffredinol, yng Nghyfarfodydd Cynghorau Rhanbarthol Cylch (dau gyfarfod y flwyddyn)
- Cyfle i ddod yn aelod o Fwrdd Cylch a hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol
- Cyhoeddiadau Cylch, yn cynnwys yr e-fwletin rheolaidd
- Sylw yn yr e-fwletin
- Cymorth gyda’r cyfryngau
- Lle ar wefan Cylch
- Manteisio ar y gwaith datblygu mae Cylch yn ei wneud ar ran y sector
Manteision aelodaeth gysylltiol:
- Rhaglen flynyddol o hyfforddiant a digwyddiadau, yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol a diwrnodau arbenigol yn ymdrin â gwastraff ac ailddefnyddio
- Cyhoeddiadau Cylch, yn cynnwys yr e-fwletin rheolaidd a’r cylchgrawn Defnyddio Deunyddiau
- Lle ar wefan Cylch
- Manteisio ar y gwaith datblygu mae Cylch yn ei wneud ar ran y sector
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 12 Ionawr, 2012