A A A

Test

Gwobr Cyfraniad Rhagorol

Mae’r Wobr Cyfraniad Rhagorol yn gwobrwyo’r unigolion hynny sydd wedi gweithio’n ddiflino dros eu hachos. Mae’n hen bryd bod y bobl hynny sy’n mynd gam ymhellach, yn arloesi’r ffordd i feysydd newydd ac sy’n gwneud gwir wahaniaeth yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau.

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws gwydr a gynhyrchwyd gan Ten Green Bottles, hamper moesegol a rhodd ‘Oxfam Unwrapped’.

Gofynion cais:

  • Rhaid bod enwebeion yn gweithredu o fewn y maes ailgylchu yng Nghymru.
  • Gallant fod yn rhan o’r sector cyhoeddus, preifat neu gymunedol.
  • Ni ddylai enwebeion fod yn weithiwr neu’n un o ymddiriedolwyr Cylch nac unrhyw gwmni perthnasol arall.
  • Ni dderbynnir unrhyw hunan enwebiadau.
  • Fodd bynnag, rydyn ni’n derbyn enwebiadau gan unigolion sy’n gweithio i’r un cwmni â’r enwebai.
  • Bydd enwebiadau yn seiliedig ar weithgareddau a wnaed dros y 12 mis diwethaf.
Derbynnir enwebiadau yn ystod yr un cyfnod â chategorïau gwobrau eraill.
Os bydd mwy na 10 enwebiad, bydd panel yn creu rhestr fer a fydd yn cynnwys dim ond y 10 enwebiad gorau. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis mewn pleidlais ar-lein.
 
Bydd y tri enwebiad gorau yn derbyn gwahoddiad i Wobrau Ailgylchu Cymru, lle bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi.

Ffurflen enwebu

Noddir gan

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 07 Mehefin 2010