A A A

Test

Fareshare Cymru

Mae FareShare UK yn elusen sefydledig sy’n ailddosbarthu bwyd a diod ‘addas i ddefnyddio’ i fudiadau cymunedol, gan fynd i’r afael â thlodi bwyd a gwastraff bwyd hefyd.

Caiff y cynhyrchion yma eu hanfon i ganolfannau sy’n rhoi cefnogaeth i bobl fregus a than anfantais fel hosteli, llochesi i ferched a llochesi dros nos. Yn 2008/09 bu’r bwyd a ail-ddosbarthwyd gan Fareshare yn fodd i gyfrannu tuag at fwy na 7.4 miliwn o brydau. Mae cyfartaledd o 29,000 o bobl bob diwrnod eisoes yn cael budd gan y gwasanaeth mae FareShare yn ei ddarparu. 

Mae Cylch yn sefydlu FareShare Cymru mewn partneriaeth â FareShare UK gyda’r gobaith o ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau FareShare lleol ar gyfer Cymru gyfan. 

Am fwy o wybodaeth am fenter FareShare Cymru cysylltwch â Sarah Germain

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010