Mae gan Cylch raglen o ddigwyddiadau sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn ac sy’n cael eu cyflwyno gan y Tîm Digwyddiadau.
Isod mae’r digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan Cylch ar gyfer 2010;
Hydref
Cynhadledd Cylch 2010 Yn cynnwys Gwobrau Ailgylchu Cymru
21-22 Hydref; Marriott Hotel, Caerdydd
Tuag at Ddyfodol Di-wastraff: Stori ein stwff
Mae’r gymdeithas brynwriaethol yn wynebu argyfwng adnoddau byd-eang. Er mwyn sicrhau dyfodol hapus a llewyrchus mae angen cymunedau cynaliadwy sydd yn gwneud defnydd effeithiol o’u hadnoddau.
Mae symudiad Cymru tuag at Ddyfodol Di-wastraff yn angenrheidiol er mwyn ymateb i’r argyfwng adnoddau a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n gwlad. Mae cyfraniad y sector cymunedol yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn cynnig atebion effeithiol ac arloesol i broblemau ailgylchu ac ailddefnyddio, ac yn cynorthwyo i gadarnhau ein cymunedau drwy ddarparu cyfleoedd cynhwysiad.
Gan ddefnyddio ffilm chwyldroadol Annie Leonard ‘The Story of Stuff’ fel man cychwyn, bydd Cynhadledd Cylch 2010 yn ymdrin yn uniongyrchol ag adnoddau ac yn edrych ar sut i greu dyfodol cynaliadwy yng Nghymru a thu hwnt.
Sut i gadw lle yn y Gynhadledd
I gadw lle mae modd defnyddio ein ffurflenni cadw lle ar-lein neu eu lawr lwytho nhw i’w hargraffu.
Pris y Gynhadledd
Am fwy o wybodaeth yngl?n ag unrhyw un o’r digwyddiadau uchod, cysylltwch â ni.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 27 Gorffennaf 2010