Beth yw Cyfrifo Cymdeithasol?
Mae cyfrifo cymdeithasol yn ffordd o fesur effaith cyflawn sefydliad, sy’n ei alluogi i fesur ei werthoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Gelwir hyn y dull llinell waelod driphlyg.
Mae paneli archwilio cymdeithasol yn gwirio gwybodaeth y cyfrifon cymdeithasol yn yr un modd y mae archwiliadau cyllidol yn darparu asesiad annibynnol o gyfrifon cyllidol.
Pam cynhyrchu Cyfrifon Cymdeithasol?
Caiff cyfrifo cymdeithasol ei gydnabod fel Strategaeth Mentrau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru fel modd o fesur effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae’n gynyddol bwysig i fudiadau ailgylchu sy’n tendro am gontractau fedru dangos buddiannau cymdeithasol eu gweithgareddau. Gan fod pryderon amgylcheddol yn flaenoriaeth ar yr agenda, mae’n hanfodol bod mudiadau o bob math yn gallu profi eu bod yn gwneud cymaint â phosibl i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Gwasanaethau Cynnal Cyfrifon Cymdeithasol Cylch
• A ydych am fesur gwerth ychwanegol?
• A ydych am wybod beth yw barn deiliaid diddordeb am eich gwasanaethau?
• A ydych am ymgymryd â chyfrifo llinell waelod driphlyg i wella eich mudiad?
Os yw hyn yn apelio atoch, yna mae gwasanaethau cynnal cyfrifon cymdeithasol Cylch ar eich cyfer chi!
Mae gwasanaethau cynnal teilwredig ar gael am bris da, gan gynnwys:
• Sesiynau blasu
• Hyfforddiant a chefnogaeth gam wrth gam
• Gweithdai
• Dosbarthiadau meistr
• Cadeirio panel
Am fwy o wybodaeth am gyfrifo cymdeithasol, cysylltwch â Phil Marks
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010