A A A

Test

Categorïau Aelodaeth

Mae yna ddau gategori o Aelodaeth Cylch: Llawn a Chysylltiol

Aelodaeth Lawn

Rhaid bod y rheiny sy’n ceisio am Aelodaeth Lawn yn fudiadau sy’n seiliedig yn y gymuned ac yn ymwneud yn weithgar â phrosiectau arbed, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio sy’n seiliedig yng Nghymru, a rhaid eu bod hefyd yn un o’r canlynol, neu’n gyfuniad ohonynt:

• Cwmni nad yw’n dosbarthu elw
• Elusen Gofrestredig
• Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus
• Cwmni Buddiannau Cymunedol
• Cymdeithas anghorfforedig (gyda chyfansoddiad ysgrifenedig a chymal yn nodi nad yw’n dosbarthu elw)

Codir tâl ar Aelodau Llawn gan ddefnyddio system fandiau ar sail trosiant blynyddol. 

Trosiant Blynyddol
(y flwyddyn)
Ffi flynyddol
(y flwyddyn)
Cyfanswm y Ffi
Sefydliad newydd a sfydydliad ers blwyddyn neu lai unig Am ddim am y flwyddyn gyntaf ~
llai na £50,000 £35.00 + TAW £41.12
£50,000 - £100,000 £ 45.00 + TAW £52.87
£100,000 - £250,000 £70.00 + TAW £82.25
£250,00 - £1m £85.00 + TAW £98.87
dros £1m £100.00 + TAW £117.50

Aelodaeth Gysylltiol
Mae aelodau cysylltiol yn sefydliadau neu’n gwmnïau sy’n cynnig manteision (gan gynnwys gwasanaethau am dâl gostyngol) i Aelodau Llawn Cylch. Mae sefydliadau ac adrannau llywodraeth leol wedi eu cynnwys yn y categori hwn. Codir tâl blynyddol ar Aelodau Cysylltiol, sef £100.00 + TAW

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Mai 2010