A wnewch chi lenwi’r ffurflen gais am aelodaeth a’i dychwelyd at Cylch gyda’r holl ddogfennau i’w chefnogi. Gofynnir hefyd i holl Aelodau Llawn Cylch lofnodi ein Datganiad o Werthoedd.
I wneud cais ar-lein, cliciwch yma*
Wedi derbyn yr holl wybodaeth berthnasol, fe fydd Swyddog Aelodaeth Cylch yn gwirio i sicrhau bod yr ymgeisydd yn gymwys, yn erbyn ein meini prawf ar gyfer Aelodaeth.
Mae’r Swyddog Aelodaeth yn llunio crynodeb o fanylion pob ymgeisydd ac yn paratoi adroddiad bob deufis, gydag argymhellion i Is-bwyllgor Aelodaeth Bwrdd Cylch a fydd yn penderfynu ynghylch yr Aelodaeth.
Oni cheir yr wybodaeth sydd ei hangen o fewn 3 mis, mae’r cais am Aelodaeth yn cael ei wrthod yn awtomatig. I’r rheiny sydd ddim yn cael eu derbyn fel aelodau, mae ganddynt yr hawl i apelio i Fwrdd Ymddiriedolwyr Cylch.
*Sylwer os gwelwch yn dda fod cyfleusterau Ardal yr Aelodau a Cheisiadau Aelodaeth yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Yr ydym yn gobeithio y byddant wedi eu cwblhau o fewn yr wythnosau nesaf ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 19 Gorffennaf 2010