Cymorthdaliadau
Menter gymdeithasol yw Cyd Ddewis (Co Options) sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru gael gwaith a hyfforddiant yn eu cymunedau eu hunain.
Maen nhw wedi defnyddio cymhorthdal gan Raglen Fuddsoddi Cylch i gyflogi ymgynghorydd i weithio gyda nhw i ganfod posibilrwydd prosiect ailddefnyddio dodrefn a allai arwain at sefydlu cyfleuster ailddefnyddio sylweddol yn ardal Y Rhyl a Phrestatyn hefyd.
Gallai’r cyfleuster newydd, helaethach yma fod yn gartref i’r prosiect newydd ailddefnyddio dodrefn ac i rai o’r prosiectau maen nhw’n gweithio arnyn nhw eisoes.
“Mae’r posibilrwydd o wella peth o’n busnes yn dibynnu ar yr adnoddau a gaiff eu defnyddio o Raglen Fuddsoddi Cylch. Mae’n gyfle gwych i ni.”
Andy Lowe, Cyd Ddewis / Co Options
Buddsoddiadau Cychwynnol
Sefydlwyd Deg Potel Werdd (Ten Green Bottles) fel menter gymdeithasol ym Mhowys yn 2007 i ymchwilio i, a datblygu’r ffyrdd o ailgylchu gwydr ac ar yr un pryd cynnig gwaith a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu ac i eraill sydd wedi’u cau allan o’r gweithle arferol.
Llwyddasant i sicrhau buddsoddiad cychwynnol o £30,000 (cymhorthdal a benthyciad). Maen nhw’n defnyddio hyn i brynu offer newydd a datblygu eu medrau busnes. Bydd y math hwn o fuddsoddiad yn galluogi i’r mudiad dyfu.
“Mae Banciau Elusennol yn wahanol, ac maen nhw wedi rhoi’r adnoddau i ni allu bod yn fusnes cynaladwy - maen nhw wedi bod o gymorth i ni lwyddo a mynd â’n prosiectau ymlaen at y cam nesaf. Mi fu hi’n broses osgeiddig, ddi-dor. ” Lorraine Powers, Deg Potel Werdd / Ten Green Bottles.
Benthyciad
Mae Sundance Renewables yn gwmni cydweithredol a menter gymdeithasol gyda’r gweithwyr yn berchen arno. Mae’n cynhyrchu bioddisel gan ddefnyddio olew coginio wedi ei ddefnyddio. Caiff yr olew ei gasglu ledled Cymru. Mae Sundance yn mynd i’r afael â marchnata cymdeithasol mewn modd cymunedol i annog mwy o unigolion a mudiadau ledled Cymru i ddefnyddio bioddisel er mwyn lleihau eu hôl troed carbon wrth fwy na 90%
Gyda benthyciad o £40,000 dros dair blynedd i brynu ail safle prosesu, a chymhorthdal o £10,000 i ddatblygu tanwydd cynhesu adnewyddol, mae Sundance yn ymdrechu i aros ar flaen y gad lle bo tanwydd adnewyddol yn y cwestiwn.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010