A A A

Test

Amdanon ni

 

Cylch yw Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru. Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ailgylchwyr cymunedol ledled Cymru – rhai sy wedi sefydlu eisoes, a rhai sy’n dechrau gwneud hynny.

Mae ailgylchu cymunedol yn golygu defnyddio adnoddau’n gynaladwy er budd y gymuned leol. Mae deunyddiau gwastraff yn adnoddau gwerthfawr. Os cân nhw eu defnyddio’n effeithiol fe allan nhw fod o fudd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i bobl leol.  Mae ailgylchu cymunedol  yn gosod defnyddio adnoddau law yn llaw ag adfywio.

Mae aelodaeth Cylch yn cynnwys mwy na 70 o fentrau lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff ledled Cymru. Mae’r mudiadau hyn yn rhoi gwaith a hyfforddiant i bobl yn eu hardal leol. 

Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae mentrau a chymunedau’n defnyddio adnoddau (gwastraff) yn gynaladwy er budd pawb.

Ein bwriad yw galluogi’r sector cymunedol i gymryd rhan allweddol mewn cael y manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mwyaf i Gymru drwy ddefnyddio adnoddau’n gynaladwy.

Gwerthoedd
Mae Cylch wedi ymroi i

  • Dim gwastraff 
  • Egwyddorion datblygu cynaladwy
  • Gweithio mewn partneriaeth ac ymddiriedaeth
  • Parchu cyfrinachedd
  • Bod yn gwbl agored ac atebol

Amcanion
Amcan Cylch yw…

  • Datblygu a chefnogi rhwydwaith o fudiadau ailgylchu, ailddefnyddio a chompostio cymunedol [y sector ailgylchu cymunedol] yng Nghymru.
  • Gwneud y sector cymunedol yn bartner hanfodol yn nyfodol defnyddio adnoddau Cymru.
  • Datblygu syniadau newydd a chydweithio i sicrhau dyfodol y sector.
  • Gweithio tuag at annibyniaeth ariannol
  • Arwain drwy esiampl
     

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010