Cylch yw Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru. Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ailgylchwyr cymunedol ledled Cymru – rhai sy wedi sefydlu eisoes, a rhai sy’n dechrau gwneud hynny.
Mae ailgylchu cymunedol yn golygu defnyddio adnoddau’n gynaladwy er budd y gymuned leol. Mae deunyddiau gwastraff yn adnoddau gwerthfawr. Os cân nhw eu defnyddio’n effeithiol fe allan nhw fod o fudd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i bobl leol. Mae ailgylchu cymunedol yn gosod defnyddio adnoddau law yn llaw ag adfywio.
Ychwaneg
Mae aelodaeth Cylch yn cynnwys mwy na 70 o fentrau lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff ledled Cymru. Mae’r mudiadau hyn yn rhoi gwaith a hyfforddiant i bobl yn eu hardal leol.
Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae mentrau a chymunedau’n defnyddio adnoddau (gwastraff) yn gynaladwy er budd pawb.
Ein bwriad yw galluogi’r sector cymunedol i gymryd rhan allweddol mewn cael y manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mwyaf i Gymru drwy ddefnyddio adnoddau’n gynaladwy.
Gwerthoedd
Mae Cylch wedi ymroi i
Amcanion
Amcan Cylch yw…
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010