A A A

Test

Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau

Diben Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru yw rhoi systemau ailgylchu ‘arfer gorau’ ar waith yng Nghymru mewn partneriaeth â threfnwyr digwyddiadau, awdurdodau lleol a phartneriaid o’r sector cymunedol. 

Mae’r prosiect yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth ymarferol i drefnwyr digwyddiadau  gyda rhoi systemau ailgylchu ar gyfer digwyddiadau ar waith yn effeithiol.

Gall y prosiect ddarparu eitemau isadeiledd hefyd fel:

  • Biniau – mawr a bach
  • Labeli ar gyfer biniau’n dynodi pa ddeunyddiau sydd i’w casglu
  • Baneri i ddangos lleoliad y biniau ailgylchu
  • Arwyddion hysbysebu mawr sy’n gallu cael eu gosod o amgylch y lleoliad yn hyrwyddo’r ffaith fod yna system ailgylchu

Mae mwy na hanner cant o ddigwyddiadau ledled Cymru wedi cael cymorth ers i’r prosiect ddechrau yn 2006, gan gynnwys:

  • Sioe Frenhinol Cymru,
  • Eisteddfod Llangollen, yr Urdd a’r Genedlaethol,
  • Digwyddiadau a drefnir gan Awdurdodau Lleol
  • Ystod o ddigwyddiadau llai.

Caiff y Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru ei ariannu gan y Cynulliad. Caiff y prosiect a swydd y Swyddog Prosiect eu cynnal gan Cylch.

Y partner allweddol yw Craff am Wastraff sy’n cydlynu’r ymgyrch ‘Ailgylchu dros Gymru’ a sy’n gyfrifol am gynhyrchu holl eitemau brand y Prosiect. Mae nodi’r eitemau yn y modd yma’n rhoi neges ailgylchu gyson ledled Cymru, waeth ble cynhelir y digwyddiad. 

Mae argraffiad diweddaraf y Canllawiau Ailgylchu ar gael!
I ofyn am gopi e-bostiwch Ruth Llewellyn, neu i lawrlwytho copi cliciwch yma

I wybod mwy am y Prosiect Ailgylchu yn Nigwyddiadau Cymru cysylltwch â Ruth Llewellyn

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010