A A A

Test

Ailgylchu Tecstilau

Mae’r Gymdeithas Ailgylchu Tecstilau yn cyfrifo y gall 85% o’r holl decstilau sy’n mynd i wastraff gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. Ar hyn o bryd, caiff llai nag 16% o’r holl wastraff tecstilau ei ddargyfeirio rhag mynd i’r llif gwastraff.

Ar hyn o bryd mae Cylch yn gweithio ar gynllun prawf yng Ngogledd Cymru. Bydd aelodau Cylch yn casglu ac yn ailddefnyddio tecstilau, ynghyd â gwerthu tecstilau dros ben i’r masnachwr tecstilau I G Cohen.

Y diben ydy lleihau faint o decstilau sy’n mynd i gladdfeydd sbwriel, ac i sicrhau fod ailgylchu tecstilau o fudd i gymunedau. Bydd gwerthu tecstilau sydd wedi cael eu hailddefnyddio yn creu gwaith lleol ynghyd ag arian ychwanegol i aelodau.

Mae Swyddog Maes Cylch, Calvin Davies, wedi llunio adroddiad ar ailgylchu tecstilau sy’n dwyn y teitl “Tecstilau: Y Gwastraff Gwyrdd Newydd?” Mae’r adroddiad yn amlinellu gwaith ymchwil ac argymhellion ar gyfer ailgylchu tecstilau yng Nghymru. Cliciwch yma i weld yr adroddiad

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Calvin Davies

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11ed Ionawr 2010