Linciau defnyddiol
Busnes a’r amgylchedd
Newid yn yr hinsawdd
Cyfathrebu
Rhwydweithiau ailgylchu cymunedol
Rheolaeth amgylcheddol
Sefydliadau amgylcheddol
Ariannu a grantiau
Llywodraeth & cyrff rheoleiddio
Adnoddau Gwybodaeth
Deddfwriaeth
Ffordd o fyw
Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
Fforymau Ailddefnyddio
Economi cymdeithasol
Hyfforddiant
Busnes a’r amgylchedd
ARENA Network
Sefydliad annibynnol sy’n rhoi cefnogaeth ymarferol i fusnesau a sefydliadau eraill ar faterion rheoli amgylcheddol.
The Carbon Trust
Mae’r ymddiriedolaeth yn helpu busnesau a’r sector cyhoeddus i ostwng allyriadau carbon, ac yn cefnogi datblygiad technoleg sy’n cynhyrchu llai o garbon.
The Energy Saving Trust
Nod yr ymddiriedolaeth yw defnyddio ynni mewn ffyrdd cynaliadwy ac effeithiol, a gostwng allyriadau carbon deuocsid, sef un o’r ffactorau allweddol sy’n achosi newidiadau yn yr hinsawdd. Mae’n sefydliad dielw a ariannir gan y llywodraeth a’r sector preifat.
Envirowise
Sefydliad sy’n darparu cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim i fusnesau’r Deyrnas Unedig er mwyn eu helpu i gynyddu elw, lleihau gwastraff a lleihau’r effeith ar yr amgylchedd.
NetRegs
Cyfarwyddyd i fusnesau ynglŷn â deddfwriaeth amgylcheddol, gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
[yn ôl i'r brig]
Newid yn yr Hinsawdd
Tudalennau Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu rhaglen i reoli newid yn yr hinsawdd.
Rhwydweithiau ailgylchu cymunedol
Community Composting Network (CCN)
Rhwydwaith sy’n cefnogi a hyrwyddo rheolaeth gymunedol a’r defnydd o adnoddau gwastraff pydradwy.
Community Re<Paint
Rhwydwaith o gynlluniau ailddefnyddio paent yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Community Recycling Network UK (CRN UK)
Sefydliad sy’n aelod ac sy’n hyrwyddo dulliau cymunedol o reoli gwastraff cynaliadwy fel ffordd ymarferol ac effeithiol o ddelio â phroblemau gwastraff cynyddol y Deyrnas Unedig.
Community Recycling Network for Scotland (CRNS)
Sefydliad aelodaeth a sefydlwyd er mwyn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i grwpiau cymunedol ym meysydd ailgylchu, ailddefnyddio, compostio, lleihau gwastraff a gweithgareddau addysg cysylltiedig.
Furniture Re-use Network (FRN)
Nod FRN yw hyrwyddo buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy ailddefnyddio deunyddiau diangen o gartrefi.
Powys Zero Waste (POW)
Dyma’r ddolen yn y gadwyn sy’n dwyn ynghyd y cyrff ailgylchu cymunedol ar draws Powys, Canolbarth Cymru, yn cynnwys ailgylchu dodrefn a nwyddau gwyn, gwasanaethau o ymyl palmant, compostio gwastraff bwyd, ailgylchu offer ynghyd ag ystod eang o wasanaethau sy'n cyfeirio cyllid ac adnoddau yn ôl i’r gymuned leol.
The National Community Wood Recycling Project (NCWRP)
Sefydlwyd er mwyn cynorthwyo i sefydlu a datblygu prosiectau ailgylchu coed cymunedol
[yn ôl i'r brig]
Rheolaeth amgylcheddol
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Safon rheoli amgylcheddol, sy’n cydnabod rheolaeth amgylcheddol effeithiol, a ddatblygwyd gan Groundwork ac Arena Network.
[yn ôl i'r brig]Sefydliadau amgylcheddol
Black Environment Network (BEN)
Sefydlwyd BEN er mwyn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ymhlith cymunedau ethnig sy’n gweithio ym meysydd cynnal, diogelu a datblygu’r amgylchedd.
British Trust for Conservation Volunteers (BTCV)
Elusen fwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig sy’n gweithio er mwyn creu amgylcheddau gwell lle mae pobl yn teimlo’u bod yn cymryd rhan ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Centre for Alternative Technology (CAT)
Elusen amgylcheddol gyda’r nod o ‘ysbrydoli, hysbysu a galluogi’ pobl i fyw mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.
Amgylchedd Cymru
Partneriaeth o sefydliadau sy’n rhan o’r sector gwirfoddol ac a ariannir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei nod yw cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy wrth gefnogi a hybu gwaith gwirfoddol er mwyn diogelu a gwella amgylchedd Cymru.
Cyfeillion y Ddaear Cymru
Sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i Gymru. Mae’n rhan o sefydliad mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig o ran ymgyrchu amgylcheddol ac mae gwastraff yn un o brif feysydd ymgyrchu’r sefydliad.
Greenpeace
Sefydliad annibynnol dielw byd-eang sy’n ymgyrchu drwy ddefnyddio dulliau creadigol a di-drais er mwyn tynnu sylw at broblemau amgylcheddol a’r rhesymau drostynt. Ar hyn o bryd, mae Greenpeace UK yn ymgyrchu yn erbyn llosgi gwastraff.
Groundwork Cymru
Rhan o rwydwaith Groundwork sy’n cydweithio â chymunedau difreintiedig. Mae pedair Ymddiriedolaeth Groundwork yng Nghymru a’u nod yw ceisio datblygu cymunedau cynaliadwy drwy wneud gwaith amgylcheddol ar y cyd.
Sefydlwyd BEN er mwyn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ymhlith cymunedau ethnig sy’n gweithio ym meysydd cynnal, diogelu a datblygu’r amgylchedd.Elusen fwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig sy’n gweithio er mwyn creu amgylcheddau gwell lle mae pobl yn teimlo’u bod yn cymryd rhan ac yn cael eu gwerthfawrogi.Elusen amgylcheddol gyda’r nod o ‘ysbrydoli, hysbysu a galluogi’ pobl i fyw mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Partneriaeth o sefydliadau sy’n rhan o’r sector gwirfoddol ac a ariannir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei nod yw cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy wrth gefnogi a hybu gwaith gwirfoddol er mwyn diogelu a gwella amgylchedd Cymru.Sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i Gymru. Mae’n rhan o sefydliad mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig o ran ymgyrchu amgylcheddol ac mae gwastraff yn un o brif feysydd ymgyrchu’r sefydliad.Sefydliad annibynnol dielw byd-eang sy’n ymgyrchu drwy ddefnyddio dulliau creadigol a di-drais er mwyn tynnu sylw at broblemau amgylcheddol a’r rhesymau drostynt. Ar hyn o bryd, mae Greenpeace UK yn ymgyrchu yn erbyn llosgi gwastraff.Rhan o rwydwaith Groundwork sy’n cydweithio â chymunedau difreintiedig. Mae pedair Ymddiriedolaeth Groundwork yng Nghymru a’u nod yw ceisio datblygu cymunedau cynaliadwy drwy wneud gwaith amgylcheddol ar y cyd.
The Sustainable Organic Resources Partnership (SORP)
Sefydlwyd y bartneriaeth yn 2003 fel sefydliad annibynnol dielw, sy’n cynnwys partneriaeth o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i hybu defnydd cynaliadwy o adnoddau organig ar y tir.
Sustainable Wales
Ymgynghoriaeth genedlaethol gyda’i swyddfa ym Mhorthcawl, sy’n delio â materion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a democrataidd.
Wales Environment LinkRhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol gwirfoddol a chefn gwlad yng Nghymru. Mae’n gweithredu fel pwynt cyswllt rhwng y llywodraeth a sector amgylcheddol gwirfoddol Cymru.
Women's Environmental Network (WEN)Sefydliad sy’n cynrychioli menywod ac yn ymgyrchu ar faterion sy’n gysylltiedig â menywod, yr amgylchedd ac iechyd. Ar hyn o bryd mae’n cynnal ymgyrch Atal Gwastraff.
[yn ôl i'r brig]
Ariannu a grantiau
The Coalfields Regeneration Trust (CRT)
Corff annibynnol a gofrestrwyd gyda’r Comisiynwyr Elusennau sy’n dosbarthu grantiau er mwyn adfywio hen gymunedau glo.
The Landfill Tax Credit Scheme (LTCS)
Dyfeisiwyd LTCS er mwyn lleddfu effeithiau tomenni sbwriel ar gymunedau lleol. Mae’n annog partneriaethau rhwng gweithredwyr tomenni sbwriel, cymunedau lleol a’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Mae’r Cyngor yn cynrychioli ac yn ymgyrchu ar ran sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru. Yn ogystal, mae’n gweinyddu nifer o gynlluniau grantiau, yn cynnwys cronfeydd Cleanstream a’r Cynllun Ailgylchu Strategol (SRS).
[yn ôl i'r brig]
Llywodraeth a cyrff rheoleiddio
Department for Business Enterprise and Regulatory Reform (BERR) (DTI yn flaenorol)
Mae BERR yn helpu sicrhau bod busnesau yn llwyddo mewn byd cynyddol gystadleuol.
BERR yw llais busnes ar draws y Llywodraeth.
Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am flaenoriaethau a pholisïau BERR.
Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
Defra sy’n gyfrifol am hanfodion bywyd - dŵr, bwyd, aer, tir, pobl, anifeiliaid a phlanhigion.
ENTRUST
Rheoleiddiwr y Cynllun Credyd Treth Tomenni Sbwriel.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Hafan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Local Authority Recycling Advisory Committee (LARAC)
LARAC yw’r sefydliad awdurdod lleol mwyaf blaenllaw sy’n hyrwyddo ailgylchu a lleihau gwastraff.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Hafan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli diddordebau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.
[yn ôl i'r brig]
Adnoddau Gwybodaeth
Wales on the Web
Mynedfa i adnoddau rhyngrwyd sy’n gysylltiedig â Chymru.
[yn ôl i'r brig]
Deddfwriaeth
The Health and Safety Executive (HSE)
Hafan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Office of Public Sector Information
Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus sydd wrth galon polisi gwybodaeth, gosod safonau, trefnu mynediad ac annog ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus. Mynediad ar-lein i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Hafan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
[yn ôl i'r brig]
Ffordd o fyw
The Green Emporium
Gyda mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o effaith bywyd modern ar ein hiechyd a’r blaned, mae galw cynyddol am wybodaeth a chynnyrch ecogyfeillgar. Sefydlwyd er mwyn helpu i ledaenu’r ffeithiau ynglŷn â chyflwr y blaned a rhoi cyngor ar sut i fyw’n fwy gwyrdd.
Mynedfa i adnoddau rhyngrwyd sy’n gysylltiedig â Chymru.Hafan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.Hafan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o effaith bywyd modern ar ein hiechyd a’r blaned, mae galw cynyddol am wybodaeth a chynnyrch ecogyfeillgar. Sefydlwyd er mwyn helpu i ledaenu’r ffeithiau ynglŷn â chyflwr y blaned a rhoi cyngor ar sut i fyw’n fwy gwyrdd.
Green Guide Online
Chwilio am wasanaethau neu gynnyrch organig, naturiol, moesol ac ecogyfeillgar? Prynwch Green Guides - tanysgrifiwch i Pure Living - er mwyn defnyddio adnoddau golygyddol enfawr - y newyddion eco diweddaraf - dyddiadur digwyddiadau - cystadlaethau rheolaidd - cyngor ar ddulliau byw’n fwy gwyrdd - miloedd o ddolenni defnyddiol.
Rounded Developments Enterprises Ltd
Sefydliad dielw sy’n aelod cyswllt o Cylch. Mae’n cynnal Canolfan Adeiladu Cynaliadwy yn Sblot, Caerdydd sy’n darparu amrediad o gynnyrch adeiladu megis: paent naturiol; llechi plastig sydd wedi eu hailgylchu; cwteri dur; dyfeisiadau monitro ac arbed ynni; mesurau arbed dŵr; plastr, morter a rendro calch a llyfrau adeiladu cynaliadwy. Yn ogystal, mae’n cynnal llyfrgell at ddibenion cyfeirio ac ymchwilio. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ar gyfer prosiectau dichonolrwydd ac ymgynghoriadau cymunedol.
My Zero Waste
Blog gan un teulu am leihau eu gwastraff. Dolenni i siopau moesol a gwyrdd a gwybodaeth am sut i leihau eich gwastraff.
[yn ôl i'r brig]
Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
The Composting Association (TCA)
Sefydliad dielw sy’n hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau pydradwy.
Cadw Cymru'n Daclus
Elusen amgylcheddol gofrestredig sy’n gweithio er mwyn gwella amgylcheddau lleol yng Nghymru.
letsrecycle.com
Newyddion o’r diwydiant ailgylchu a rheoli gwastraff.
Craff am Wastraff Cymru
Prosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol a Cadw Cymru’n Daclus ac a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Sefydlwyd er mwyn hyrwyddo mesurau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff ledled Cymru.
Wastewatch
Sefydliad cenedlaethol blaenllaw sy’n hyrwyddo ac annog mesurau er mwyn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
Ymddiriedolaeth Amgylchedd Cymru
Ymddiriedolaeth sy’n darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol er mwyn helpu i ddatblygu marchnadoedd ailgylchu Cymru.
Waste and Resources Action Programme (WRAP)
Nod WRAP yw cyflymu effeithlonrwydd adnoddau drwy greu marchnadoedd effeithiol ar gyfer ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion, a symud rhwystrau lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu.
[yn ôl i'r brig]
Sefydliad dielw sy’n hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau pydradwy.Elusen amgylcheddol gofrestredig sy’n gweithio er mwyn gwella amgylcheddau lleol yng Nghymru.Newyddion o’r diwydiant ailgylchu a rheoli gwastraff.Prosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol a Cadw Cymru’n Daclus ac a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Sefydlwyd er mwyn hyrwyddo mesurau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff ledled Cymru.Sefydliad cenedlaethol blaenllaw sy’n hyrwyddo ac annog mesurau er mwyn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.Ymddiriedolaeth sy’n darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol er mwyn helpu i ddatblygu marchnadoedd ailgylchu Cymru.Nod WRAP yw cyflymu effeithlonrwydd adnoddau drwy greu marchnadoedd effeithiol ar gyfer ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion, a symud rhwystrau lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Fforymau Ailddefnyddio
Communicycle
Ailgylchu er lles y gymuned – rhowch eitemau diangen i bobl a allai wneud defnydd gwirioneddol ohonynt.
Freecycle
Sefydlwyd ym mis Mai 2003 er mwyn hybu lleihau gwastraff yn nhref Tucson a helpu i ddiogelu’r tirwedd diffaith rhag tomenni sbwriel. Mae’r rhwydwaith yn darparu fforwm electronig er mwyn galluogi unigolion a chyrff dielw i ailgylchu eitemau diangen. Hynny yw, gall gwastraff un person fod yn drysor i rywun arall!
[yn ôl i'r brig]
Economi cymdeithasol
Community Action NetworkSefydliad blaenllaw'r Deyrnas Unedig ym maes datblygu a hyrwyddo entrepreneuriaid cymdeithasol.
Canolfan Cydweithredol CymruYr Asiantaeth Datblygu Economi Cymdeithasol fwyaf, a’r fwyaf cynhwysfawr, yng Nghymru sy’n helpu i ddatblygu mentrau cydweithredol ac yn darparu gwasanaethau hyfforddi.
[yn ôl i'r brig]
Hyfforddiant
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Safon rheoli amgylcheddol sy’n cydnabod rheoli amgylcheddol effeithiol a ddatblygwyd gan Groundwork ac Arena Network.
Buddsoddwyr mewn Pobl Mae safon Buddsoddwyr mewn Pobl yn fframwaith ar gyfer gwella busnesau drwy ddatblygu sgiliau pobl.
Social Audit NetworkRhwydwaith sy’n hyrwyddo a chefnogi cyfrifeg gymdeithasol ac archwilio fel dull o alluogi sefydliadau sy’n gweithredu o fewn y gymuned, economi cymdeithasol a’r sectorau cyhoeddus adrodd ar eu perfformiad cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
[yn ôl i'r brig]
Anfonwch
ebost atom os am hysbysu problem gyda unrhyw ddolen neu awgrymu dolenni pellach.
Diweddarwyd: 19 Chwefror 2007