View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAnnual ReportBoard of TrusteesOur Business Plan documentationOur charity status- pdf documentView Cylch's environmental policy - pdf fileOur Welsh Language PolicyThe Cylch teamAbout the Cylch servicesLatest news from CylchConference informationMembers area sign in and details

Disgrifiad gwaith Ymddiriedolwyr

Dyletswyddau cyffredinol
  • mynychu pedwar cyfarfod Bwrdd Ymddiriedolwyr y flwyddyn, a chyfarfodydd eraill fel bo angen
  • mynychu cyfarfodydd is-bwyllgorau fel bo’n addas
  • cyfrannu at benderfyniadau a chynllunio strategol sy’n galw am ddealltwriaeth o’r materion cyffredinol sy’n wynebu’r sector rheoli gwastraff cynaladwy
  • sicrhau y rheolir Cylch yn dda, ei fod yn dilyn y gyfraith ac yn ymdrechu i ddilyn yr arferion gorau ym maes cyflogaeth

Cyfrifoldebau cyffredinol
  • rhaid i Ymddiriedolwr ddefnyddio sgiliau a gofal yn unol â’i sgiliau a phrofiad
  • wrth weithredu fel Ymddiriedolwr, rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiddordebau Cylch hyd yn oed pan fyddant yn gwrthdaro â’i fuddion personol neu berson neu gorff arall y mae ganddo ddiddordeb ynddynt
  • rhaid i Ymddiriedolwr ddatgelu ei ddiddordebau mewn cyfarfodydd a thynnu nôl o drafodaethau pan fydd gwrthdaro a phenderfyniadau’n cael eu gwneud
  • rhaid i Ymddiriedolwr fod yn glir pan fydd yn gweithredu fel unigolyn neu’n cynrychioli Cylch. Yn sicr, ni ddylai awgrymu mewn unrhyw ffordd ei fod yn siarad fel unigolyn pan yn cynrychioli Cylch fel corff.

Cyfrifoldebau i’r aelodau
Ystyried:
  • sicrhau y darperir gwybodaeth er galluogi aelodau i gyfrannu at ddatblygiad polisïau
  • sicrhau safonau uchel mewn cyfarfodydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr a chyfarfodydd cyffredinol

Cyfrifoldebau i’r cyllidwyr

Sicrhau y cyflawnir contractau, fel arfer yn cynnwys:
  • allgynnyrch neu gynnyrch a “brynwyd”
  • adroddiadau
  • cyfrifon

Diarddel enwebiadau:
Rhaid i enwebeion ar gyfer y Bwrdd gyfarfod â’r amodau isod:
  • dim pobl wedi’u gwahardd rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni neu ymddiriedolwr elusen
  • dim methdalwyr heb eu rhyddhau
  • dim pobl sydd wedi rheoli corff amgylcheddol cofrestredig Entrust a ddiddymwyd yn orfodol
  • dim pobl wedi’u barnu’n euog o drosedd dditiol
  • rhaid bod dros 18 oed




Tudalen wedi ei ddiweddaru ar Ebrill 30ed 2005

click here to view the full list of member benefits

Cylch Conference 2005


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53