View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAbout CylchAbout the Cylch teamCylch services pageInformation and resources pageRepresentation and advocacyEvents and trainingSupport and advicePR and marketingView details on our projectsView details on our fundingSocial accountingLatest news from CylchConference informationMembers area sign in and details

Cyfrifo Cymdeithasol

Beth yw Cyfrifo Cymdeithasol?


Beth yw Cyfrifo Cymdeithasol?

Cyfrifo Cymdeithasol yw’r ffordd o fesur effaith sefydliad, gan alluogi mesur ei werth mewn termau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae panelau cyfrifo Cymdeithasol yn gwirio yn annibynnol, y wybodaeth sy’n cael ei darparu mewn cyfrifon cymdeithasol, yn yr un ffordd ag y mae cyfrifo ariannol yn darparu asesiad annibynnol o gyfrifon ariannol.


Pam cynhyrchu Cyfrifon Cymdeithasol?

Mae’n gynyddol bwysig fod sefydliadau ailgylchu yn tendro am gontractau gan Awdurdodau Lleol er mwyn gallu dangos budd cymdeithasol eu gweithgareddau. Bydd cynlluniau peilot fel hyn (gweler isod) yn atgyfnerthu hyn

Cynllun Peilot Awdurdodau Lleol

Mae Cyfrifo Cymdeithasol yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Strategaeth Mentrau Cymunedol cyfredol, fel cyfrwng o fesur a phrofi effaith y gwaith da y mae Mentrau Cymdeithasol yn ei wneud:

Menter Gymdeithasol Strategy

A chyda materion amgylcheddol yn uchel ar yr agenda, mae’n hanfodol fod sefydliadau o unrhyw fath yn gallu profi eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn lleihau effaith ar yr amgylchedd.


Gwasanaethau Cefnogi Cyfrifo Cymdeithasol Cylch

  • Diddordeb mewn mesur gwerth sy’n cael ei ategu?

  • Am wybod beth mae eich hapddalwyr wir yn meddwl am eich gwasanaethau?

  • Am wella eich sefydliad a chyfrifo llinell isaf driphlyg?

Os mai ‘ie’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, gallai Gwasanaethau Cefnogi Cyfrifol cymdeithasol fod ar eich cyfer chi!


Mae gwasanaethau cefnogi wedi eu teilwra ar gael am bris da, gan gynnwys:

  • Sesiynau blasu

  • Hyfforddiant a chymorth cam wrth gam

  • Gweithdai

  • Dosbarthiadau meistr

  • Paneli Cadeirio


Beth mae eraill wedi dweud am ein gwasanaeth ni:

Mae Cylch wedi bod yn gefnogol iawn drwy’r holl broses, yn darparu sylwadau ar ein cynlluniau a’n holiaduron, ein rhoi mewn cysylltiad gyda sefydliadau tebyg eraill sydd wedi paratoi Cyfrifon Cymdeithasol, a threfnu bod Archwilydd Cymdeithasol trwyddedig i gadeirio’r Panel Cyfrifo Cymdeithasol.- Antur Waunfawr

Diolch enfawr i Cylch am bob help gydol y broses. Mae wedi bod yn help mawr i fynd drwy’r broses gydag eraill.’ - Environment Centre


Tîm Cylch


Phil Marks

Karin Crimmins

Henry Widdicombe

 

Rose Jennings

‘Mesur Effaith’ – Diwrnodau Blasu Cyfrifo Cymdeithasol

Mae modd mabwysiadu’r fframwaith ‘Llinell Waelod Triphlyg’ o Gyfrifo Cymdeithasol er mwyn cael golwg gyfansawdd ar effaith unrhyw sefydliad yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae Cylch yn credu’n gryf fod hyn yn offeryn gwerthfawr ar gyfer unrhyw sefydliad, a hoffem gynorthwyo unrhyw sefydliad yng Nghymru i weithredu’r gweithdrefnau hyn.

Mae Cylch, ar y cyd â DTA Cymru a Rhwydwaith Archwiliad Cymdeithasol y D.U (SAN), wedi cynnal dau ddiwrnod blasu ar Chwefror 22in ac ar Fawrth 3ydd, gyda’r bwriad o ddarparu gorolwg manwl o Gyfrifo Cymdeithasol. Roedd y testunau a drafodwyd yn cynnwys:

  • Y broses tair cam o Gyfrifo Cymdeithasol

  • Astudiaethau Achos gan sefydliadau sydd wedi darparu Cyfrifon Cymdeithasol

  • Y camau cyntaf o ran darparu Cyfrifon Cymdeithasol sefydliad


Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad yn Ne Cymru oedd:

Mo Green – Prosiect ailgylchu MOre Green
Gareth Evans – Y Ganolfan Amgylcheddol, Abertawe
Peter Williams –Cymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru


Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad yng Ngogledd Cymru oedd:

Calvin Davies – Antur Waunfawr
Amanda Evans a Tim Hodkinson – Partneriaeth Cymunedol Dyffryn Gwy
John Turner – Co-Options

Gellir llwytho cyflwyniadau o’r diwrnodau blasu hyn:

Cyflwyniad Cylch: Bethyw Cyfrifo Cymdeithasol?

Peter Williams, DTA Cymru  

Astudiaeth Achos: Y Ganolfan Amgylcheddol, Abertawe  

 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, yna cysylltwch â Rose Jennings


Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Mawrth 9fed 2008

click here to view the full list of member benefits

Cylch Conference 2005


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53