Cynrychiolaeth ac eiriolaeth
Mae Cylch yn darparu cynrychiolaeth ac eiriolaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Ar lefel genedlaethol, mae Cylch yn cynnig llais unigol, yn bennaf gyda Chynulliad Cymru a’i adrannau, ond hefyd gydag asiantaethau llywodraethol ac eraill, i atgyfnerthu dylanwad ac effaith ein sector. Hefyd, mae Cylch yn ymateb i ddogfennau ymgynghori perthnasol ar ran y sector.
Cynrychiolir Cylch ar bwyllgorau a fydd yn dylanwadu ar y newidiadau sy’n digwydd ym maes rheoli gwastraff a datblygiad mentrau cymdeithasol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
RREUSE
Y Rhwydwaith Datblygu Cynaliadwy
Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol y DU
Fforwm Gwastraff Cymru
Bwrdd CGGC (WCVA)
Clymblaid Anturiaeth Gymdeithasol (Social Enterprise Coalition)
Grŵp Llywio Amgylchedd Cymru
Grwpiau Technegol Gwastraff Rhanbarthol – Strategaethau Gwastraff rhanbarthol
Rhwydwaith Archwilio Cymdeithasol y D.U
Rhwydwaith yr Economi Gymdeithasol
Cyd-grwp Llywio Anturiaeth Gymdeithasol a’r Is-bwyllgor Caffael
Grŵp Hapddalwyr Cynllun Gweithredu Deunyddiau Llywodraeth Cynulliad Cymru
Grŵp Ffocws WEEE
Bwrdd Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Amgylhcedd Cymru
Cyngor Cyswllt Amgylcheddol Cymru
Grŵp Rheoli Craff am Wastraff Cymru
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Mehefin 2008