View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAbout CylchAbout the Cylch teamCylch services pageInformation and resources pageRepresentation and advocacyEvents and trainingSupport and advicePR and marketingView details on our projectsProject - event recyclingView details on our fundingSocial accountingLatest news from CylchConference informationMembers area sign in and details

Projectau

Ailgylchu ysgolion

Pob ysgol yn gallu ailgylchu
Yn ystod 2005 bydd Cylch yn cydweithio ochr yn ochr â chyrff eraill er mwyn cyflwyno cynlluniau o dan arweiniad disgyblion mewn ysgolion drwy’r wlad, a symbylu cenhedlaeth newydd o ailgylchwyr.

Menter newydd
Ar ddechrau’r flwyddyn llofnododd Cylch & Cadw Cymru’n Daclus femorandwm dealltwriaeth er sefydlu partneriaeth i weithredu rhaglen ‘Eco Ysgolion’, fydd yn galluogi Aelodau Cylch i fod yn rhan o elfen ailgylchu’r rhaglen.

Bydd y fenter yn helpu’r rhwydwaith ailgylchu cymunedol i gryfhau ei gysylltiadau lleol, cynyddu ei gynhwysedd a gwella lefelau dargyfeirio.

Project peilot
Trefnwyd peilot ysgolion Cylch yng Nghaerdydd (1999-2004), gan fabwysiadu ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd oed cysylltiedig er mwyn datblygu cynllun ailgylchu ymarferol gyda chymorth athrawon a disgyblion.

Darparwyd yr adnoddau i gasglu a storio’r deunyddiau (siediau, biniau a gwasanaeth casglu), gyda Swyddog Addysg Ysgolion yn trefnu cyfarfodydd a gweithdai ailgylchu rheolaidd yn yr ysgolion.

Wrth gynnal ‘Peilot Ailgylchu Ysgolion Caerdydd’ dysgodd Cylch lawer am sut i gefnogi a chynghori cyrff sut i sefydlu projectau ailgylchu ar y cyd ag ysgolion lleol.

Am wybodaeth bellach, darllenwch y ddogfen ‘Mae Pob Ysgol yn gallu Ailgylchu’ neu cysylltwch â Cylch.




Tudalen wedi ei ddiweddaru ar Mai 2ail 2005

click here to view the full list of member benefits

Cylch Conference 2005


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53