               
|

Projectau
Modelau dargyfeirio
Hanes Mae’r modelau dargyfeirio’n brojectau hir dymor a ddyfeisiwyd er mwyn newid dulliau trin gwastraff Cymru. Datblygwyd nhw yn dilyn llofnodi memorandwm dealltwriaeth gan Cylch & Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Roedd y ddau barti am sefydlu mentrau ymarferol er gweithredu amodau’r Memorandwm ac o ganlyniad datblygwyd y syniad o greu partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a’r sector cymunedol er mwyn cynyddu lefelau dargyfeirio gwastraff o domenni sbwriel. Symbylwyd y partneriaethau i ddargyfeirio o leiaf 50% o wastraff trefol (yn cynnwys tomenni sbwriel ac ynni o wastraff) a phennu arferion gorau i’w dilyn gan ardaloedd eraill.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi’r fenter o’r cychwyn ac wedi cymeradwyo’r dulliau yn Strategaeth Wastraff Cymru.
Amcanion y modelau dargyfeirio: - datblygu dulliau rheoli adnoddau strategol a hir dymor
- darparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
- hyrwyddo dulliau dyfeisgar o drin deunyddiau
- trefnu banciau casglu deunyddiau drwy ardaloedd awdurdodau lleol
- trefnu gwasanaethau casglu deunyddiau cynhwysfawr ar gyfer cartrefi a busnesau
- symbylu lefelau compostio uchel (yn cynnwys gwastraff cegin)
- cymell cyfraniad y sector cymunedol er darparu buddion llinell waelod
Modelau rhagoriaeth Gofynnodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol ei aelodau (22 awdurdod lleol) i lunio syniadau i sefydlu modelau rhagoriaeth. Mynegwyd diddordeb gan 14 a derbyniwyd wyth cynnig ffurfiol, gyda chynrychiolwyr y Gymdeithas, Cylch, Llywodraeth y Cynulliad ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru yn dewis pump ohonynt i sefydlu modelau rhagoriaeth: Môn, Ceredigion, Powys, Torfaen & Casnewydd.
Gweithdai Trefnwyd gweithdai er mwyn helpu’r partneriaethau newydd i weithio’n effeithiol a pharatoi cynlluniau busnes cynhwysfawr.
Dulliau arloesol Mae’r modelau wedi datblygu dulliau arloesol er mwyn cyrraedd targedau, yn cynnwys: - dulliau casglu newydd yn defnyddio cerbydau trydan
- newid y casgliadau gwastraff gweddilliol i bob pythefnos, nid bob wythnos
Cyllid Daw’r cyllid o’r isod: - arian Loteri (Cronfa Cyfleoedd Newydd – Cleanstream® wedi cau erbyn hyn)
- cyllid Amcan Un a Dau Ewrop
- credydau treth tomenni sbwriel
- y Cynllun Ailgylchu Strategol
Trefnwyd cyfanswm cyllid o £30m ar gyfer modelau rhagoriaeth drwy Gymru.
Monitro ac adrodd annibynnol Mae Jacobs Babtie yn monitro datblygiad y modelau rhagoriaeth yn ofalus iawn ac yn darparu adroddiadau blynyddol ar eu gwaith.
Am fanylion pellach am y modelau rhagoriaeth – cliciwch yma.
Tudalen wedi ei ddiweddaru ar Mai 2ail 2005
|
|


|