Gwasanaethau
Mae darparu gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel ar gyfer Aelodau Cyflawn yn amcan allweddol i Cylch, Mae Cylch yn bodoli er mwyn darparu gwasanaethau cefnogi ar gyfer sector ailgylchu Cymunedol Cymraeg, ac er mwyn annog partneriaethau gydag awdurdodau lleol, sefydliadau o’r sector preifat, a sicrhau gweithredu Strategaeth Gwastraff Cymru yn llwyddiannus
Gwasanaethau Safonol ar gyfer Aelodau Cyflawn
Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar gyfer pob aelod cyflawn, fel y mae ar hyn o bryd :
Gwybodaeth – gan gynnwys y wefan a’r e-fwletin
Ymweliad Blynyddol a Profwch ef
Cynrychiolaeth ac Eiriolaeth
Gweithio mewn Partneriaeth a Rhannu Arferion Da
Cefnogaeth Cyllid
Bydd Aelodau Cyflawn yn parhau i dderbyn buddion aelodaeth eraill, gan gynnwys prisiau gostyngol mewn digwyddiadau a sesiynau hyfforddiant, ac yn y Gynhadledd Flynyddol.
Gwneud Cais am Wasanaethau Cefnogi Datblygiad (gweler isod) – bydd pob aelod yn gallu gwneud cais am wybodaeth drwy gyfrwng Gwasanaethau Cefnogi Datblygiad (gweler isod).
Gwasanaethau Cefnogi Datblygiad
Rhagor o gefnogaeth arbenigol. Mae esiamplau yn cynnwys:
Datblygu Syniadau Newydd ac Atebion a fydd yn Sicrhau Dyfodol y Sector Bydd Cylch hefyd yn parhau i weithio er mwyn datblygu syniadau newydd ac atebion er mwyn sicrhau dyfodol y sector. Mae’r rhain yn cynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Cylch cysylltwch â ni.
O amgylch Cymru
Fel partner craidd ar Fenter Amgylchedd Cymru, yn ogystal â Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru Cliciwch yma - i gael manylion am y Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru
Dylanwad Strategol
Mae Cylch wrth galon dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru a fydd yn annog, ac yn effeithio ar dwf y sector ailgylchu cymunedol.
Mae Cylch yn cynrychioli ei aelodau ar lefel strategol mewn mannau sy’n effeithio arnynt , fel polisi cynaliadwyedd, a datblygiad yr economi gymdeithasol a pholisi gwastraff yng Nghymru. Yn genedlaethol, a thrwy bartneriaethau gyda Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol y DU (CRN UK) , Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn (FRN) a’r Rhwydwaith Compostio Cymunedol mae Cylch yn ymateb i ymgynghoriadau ar ddeddfwriaeth genedlaethol a deddfwriaeth Ewropeaidd
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 28ain 2007