|
Ceisiadau
Ystyrir ceisiadau gan Bwyllgor Aelodaeth Cylch. Cliciwch
yma er mwyn gwneud
cais i fod yn Aelod o Cylch.
Sefydlwyd Cylch ym 1997 er mwyn darparu: |
- llais i hyrwyddo a chynrychioli sefydliadau ailgylchu
a rheoli gwastraff yn gynaliadwy yng Nghymru
- cyngor, digwyddiadau, hyfforddiant a rhwydweithiau er mwyn
sicrhau llwyddiant sefydliadau ailgylchu cymunedol yng Nghymru
- y gallu i osod y sector ailgylchu cymunedol yng nghanol
llwyfan dyfodol rheoli gwastraff yng Nghymru
- systemau cyfathrebu a chefnogaeth lawn er mwyn galluogi
rhannu gwybodaeth rhwng Aelodau.
|
Bydd Aelodau llawn Cylch yn elwa o: |
- fynediad llawn a chyflawn i wybodaeth ac adnoddau Cylch
- cynrychiolaeth ac eiriolaeth sy’n strategol ac
yn barhaus
- blaenoriaeth o ran digwyddiadau neu gyrsiau hyfforddi Cylch
- cefnogaeth a chyngor llawn ar holl faterion sector, deddfwriaeth,
polisi a busnes
- cefnogaeth a chymorth ymarferol gyda phrosiectau (cynlluniedig
neu sydd eisoes yn bodoli)
- cyngor a chymorth uniongyrchol gyda cheisiadau ariannol
a dyraniad
- fforymau gwastraff a rhwydweithiau o gysylltiadau perthnasol
- prisiau disgownt yn y gynhadledd flynyddol (yn cynnwys
y cyfarfod blynyddol, gyda hawliau pleidleisio i Aelodau
llawn)
- aelodaeth ddi-dâl o CRN UK
- yr hawl i fynychu digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi CRN
UK
- prisiau gostyngol yng nghynhadledd flynyddol CRN UK
|
Mae Cylch yn darparu bwletin e-bost rheolaidd
i Aelodau sy’n cynnwys: |
- y datblygiadau diweddaraf yn y sector
- newyddion Aelodau
- sut i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd
- gwybodaeth am gyllid
- cyfleoedd gwaith
- rhestrau cynhwysfawr o ddigwyddiadau a hyfforddiant
|
Cylchgrawn
Cylchgrawn yw cyhoeddiad dwyieithog, chwarterol, y sector rheoli
gwastraff cynaliadwy yng Nghymru, sy’n llawn o’r
newyddion diweddaraf, yr arferion gorau yng Nghymru, ac achosion
enghreifftiol gan Aelodau Cylch ac Awdurdodau Lleol. Dosbarthir
yn ddi-dâl i bob Aelod.
Categorïau aelodaeth
Aelodaeth Llawn
Rhaid i ymgeiswyr am aelodaeth lawn fod yn sefydliadau neu grwpiau
cwbl sefydliedig, cymunedol nid er elw, sydd o ddifrif yn ymgymryd â phrosiectau
lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio. Bydd Pwyllgor
Aelodaeth Cylch yn gwirio statws cyfansoddiadol pob sefydliad sy’n
ymgeisio am Aelodaeth Cylch i sicrhau bod gennynt yr hawl i ymaelodi.
Mae gan yr Aelodau Llawn hawliau pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol a chânt eu hannog i’w defnyddio .
Aelodau Cyswllt Cylch
Sefydliadau neu gwmnïau sy’n darparu buddiannau (yn
cynnwys gwasanaethau am bris gostyngol) i aelodau llawn Cylch. Maent
yn cynnwys sefydliadau statudol canolog a rhanbarthol ac adrannau
llywodraeth leol.
Nid oes hawl gan aelodau cyswllt Cylch i bleidleisio yn y Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol.
Tâl Aelodaeth
Aelodaeth Llawn
Codir tâl ar Aelodau Llawn drwy ddefnyddio system fonitro
sy’n seiliedig ar drosiant blynyddol. Gweler y graddfeydd
yn y tabl isod.
Trosiant Blynyddol
(y flwyddyn) |
Tâl Blynyddol
(y flwyddyn) |
Cyfanswm y Tâl |
Sefydliad Newydd |
Am ddim y flwyddyn gyntaf |
- |
Llai na £50,000 |
£35 + TAW |
£41.12 |
£50,000 - £100,000 |
£45.00 + TAW |
£52.87 |
£100,000 - £250,000 |
£70.00 + TAW |
£82.25 |
£250,000 - £1m |
£85.00 + TAW |
£99.87 |
Dros £1m |
£100.00 + TAW |
£117.50 |
Aelodaeth Cyswllt
Codi’r tâl blynyddol o £100.00 + TAW ar Aelodau
Cyswllt
Diweddarwyd: March 2008
|