Rhaglen Cylch - Fuddsoddiad Adeiladu Cynhwysedd
Mae Banc Elusennol yng Nghymru yn gweithio gyda Cylch i weithredu pecyn newydd o gyllid a chefnogaeth ar gyfer aelodau llawn Cylch. Amcan y rhaglen yw cyfnerthu datblygiad cynaliadwy ymysg y mentrau cymdeithasol; megis grwpiau lleihau gwastraff, ail-ddefnyddio, ailgylchu, compostio ac ail prosesu.
Bydd y rhaglen yn cynnig cefnogaeth fesul cam, o fuddsoddiad parodrwydd, i grantiau had, cyllid cyfalaf parodrwydd, cyllid cyfalaf ymgyrchu trwodd i fenthyciadau hir dymor a chyllid ased. Bydd manylion llawn y rhaglen yn cael ei benderfynu a’u datgan yng nghynhadledd Cylch ym mis Hydref a bydd yn dwyn dylanwad a siâp drwy’r rhaglen cyllid dechreuol dros dro a fydd yn rhedeg o rŵan hyd at y gynhadledd ac yna heibio at fis Mawrth y 31ain 2009. Bydd disgwyl i’r aelodau sy’n awyddus i fanteisio ar y gefnogaeth i fuddsoddi yn y daith tuag at ddod yn fenter gymdeithasol gynaliadwy, i wneud achos dros eu hanghenion ac i ddangos modd cynaliadwy o symud ymlaen. Mae’n bosib y bydd cefnogaeth grant ar gael ar y cychwyn i fudiadau a swyddogion unigol a/neu ymddiriedolwyr mewn ffurf hyfforddiant ac ymgynghori ac i roi cymorth i baratoi at ymgeisio am y gwahanol fathau o gyllid. I bennu os yw eich mudiad/cwmni yn gymwys i dderbyn cefnogaeth o dan y rhaglen e-bostiwch ymholiad at finance@cylch.org.uk neu yn y post i swyddfa Cylch. Unwaith bydd eich mudiad yn cymhwyso bydd Cylch yn eich rhoi chi mewn cysylltiad gyda’r Banc Elusennol. Please click here for the background information |