Adnoddau a gwybodaeth
Mae Cylch yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau drwy amrywiaeth o ffynonellau: Y dudalen newyddion diweddaraf
Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru yn ddyddiol gan y tîm Cyfathrebu. Beth am wneud hon yn dudalen gartref i chi, fel eich bod bob amser yn ymwybodol o’r datblygiadau yn y sector ailgylchu
Bwletin e-bost
Mae e-fwletin Cylch sy’n cael ei gyhoeddi bob pythefnos (ar gael i aelodau yn unig) yn darparu crynodeb o’r digwyddiadau diweddaraf gan gynnwys cyllid ac ariannu, deddfwriaeth, yr arferion gwaith gorau, cyfleoedd am waith, polisi, tendrau, hyfforddiant a digwyddiadau , newyddion gan aelodau eraill Cylch, ymgynghoriadau, newyddion Cylch a llawer mwy! Mae e-fwletinau cyfredol a hen e-fwletinau ar gael yn yr Adran yr Aelodau gan sicrhau fod gennych fynediad at y wybodaeth ddiweddaraf bob amser.
Cylchgrawn
Mae Cylchgrawn, sy’n cael ei gyhoeddi’n chwarterol ynghylch rheoli adnoddau yn gynaliadwy yng Nghymru, yn llawn o’r newyddion diweddaraf a’r arferion gorau yn y sector. Mae Craff am Wastraff Cymru yn bartner yn y cyhoeddiad dwyieithog hwn, ac mae’n cael ei ddosbarthu at holl aelodau Cylch, y prif hapddalwyr, a grwpiau yng Nghymru sydd â diddordeb.
Y Llyfrgell wybodaeth
Mae Cylch yn cadw llyfrgell gyfansawdd yn y swyddfa yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys cylchgronau, dyddlyfrau a chylchlythyron, adroddiadau, canllawiau, gwybodaeth am ddeddfwriaeth a strategaethau gwastraff. Gellir dod o hyd i’r rhain drwy ddefnyddio cronfa ddata, sydd hefyd yn darparu cysylltiadau ag adnoddau perthnasol ar-lein. Mae’r llyfrgell ar gael drwy drefniant ymlaen llaw ar gyfer chwilio. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kayle
Cynhadledd flynyddol Cylch
Cylch sy’n trefnu’r unig gynhadledd ar reoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru. Mae’r gynhadledd yn rheolaidd yn denu dros 150 o gynrychiolwyr o fentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol, a’r sector preifat. Mae’r gynhadledd yn gwarantu y bydd yn darparu amgylchedd gwych ar gyfer cael trafodaeth fywiog, dadl, a chyfleoedd arbennig o dda i rwydweithio. Gan fod y gynhadledd hon yn trafod yr holl faterion sy’n wynebu’r sector heddiw, fyddwch chi ddim am golli’r gynhadledd hon. I ddysgu rhagor am y gynhadledd, ewch i edrych ar dudalennau'r gynhadledd.
Adnoddau sydd ar gael i’w llwytho
Arolwg ar gyllido rheoli gwastraff trefol ar ymyl ffordd yng Nghymru: Adroddiad Cryno Mae’r adroddiad hwn yn dangos fod sefydliadau ailgylchu cymunedol yn gweithredu rhai o’r systemau casglu oddi ar ymyl y palmant mwyaf effeithiol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gostau casgliadau ymyl y palmant o wastraff, a deunyddiau y gellir eu hailgylchu neu eu compostio, yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’n cynnwys manylion costau casgliadau sy’n cael eu gweithredu gan y sector preifat, y sector cymunedol neu’r awdurdodau lleol eu hunain, ac yn cymharu’r costau mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd trefol, a’r cymoedd, yn seiliedig ar yr awdurdodau lleol. Mae costau casgliadau ymyl y palmant ar gyfer ailgylchu, casgliadau didoli ymyl y palmant a chasgliadau cymysg wedi eu nodi hefyd. . Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu cwmni ymgynghori RPS i gynnal yr astudiaeth hon. Gweithredwyd yr astudiaeth mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Dogfen Cleanstream
Dogfen Cleanstream (2006) yw’r fersiwn ddiweddaraf o 'Cleanstream: Rheolaeth Adnoddau Gynaliadwy ar gyfer Cymru' (2000). Mae’n parhau i hyrwyddo budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol rhannu deunyddiau yn y ffynhonnell. Gyda chyfraniadau o wahanol ffynonellau, mae’n ddogfen gyda gwell cyfeiriadau na’i ragflaenydd.