      
|

Cylch - Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru
Gweithredu Ymarferol Mae Cylch yn gorff ymbarél a sefydlwyd yn 1997 er mwyn hyrwyddo rheoli adnoddau drwy addysg a gweithredu ymarferol yng Nghymru. Mae Cylch yn hyrwyddo ac yn cefnogi mentrau rheoli adnoddau yn gynaliadwy sy’n seiliedig ar y gymuned, ac sy’n cael eu harwain drwy bartneriaeth. Maent yn gweld hyn fel ateb ymarferol ac effeithiol i broblemau gwastraff yng Nghymru. Mae Cylch yn gweld fod deunyddiau gwastraff yn adnoddau gwerthfawr sydd, o’i rheoli mewn ffordd effeithiol, yn creu budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer unigolion a’r cymunedau y meant yn byw ynddynt. Mae Cylch yn Sefydliad sydd ag aelodaeth , sy’n darparu gwybodaeth, adnoddau, cynrychiolaeth, eiriolaeth, hyfforddiant, digwyddiadau, cymorth a chyngor, (cyffredinol a chyllidol), ymwneud â phrosiectau a Chysylltiadau Cyhoeddus/marchnata ar gyfer ein holl aelodau.Mae arian craidd Cylch yn dod o is core funded by Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cael cymorth gan arian ychwanegol sy’n cael ei ennill, yn flaenorol drwy gronfa Cleanstream® Fund (sydd bellach ar gau), ac ar hyn o bryd drwy’r Cynllun Ailgylchu Strategol . Mae’r wefan hon yn rhan o offer cyfathrebu Cylch, ac mae’n cael ei diweddaru yn rheolaidd, gan ddarparu Ardal aelodau benodol, yn ogystal â’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae hefyd yn ddrws i gyfoeth o wefannau eraillperthnasol. Diweddarwyd 12 Rhagfyr 2008
|
|




|