View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAbout CylchAbout the Cylch teamCylch services pageInformation and resources pageRepresentation and advocacyEvents and trainingSupport and advicePR and marketingView details on our projectsView details on our fundingLatest news from CylchConference informationMembers area sign in and details

Cyllid

Cymorth cyllid
Mae Cylch yn cynnig cymorth cyllid cyffredinol i’w Aelodau.

Hyd yma, mae Cylch wedi bod yn bennaf gyfrifol am roi cyngor a chymorth ar ddwy ffynhonnell gyllid: cronfa Cleanstream® (wedi cau) a’r Cynllun Ailgylchu Strategol (wedi cau). Mae wedi gwneud hynny mewn partneriaeth â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Asiantaeth Amgylchedd Cymru, Cronfa’r Loteri Fawr, awdurdodau lleol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.

Dyrannwyd arian cronfa Cleanstream® (£2.75 miliwn – wedi cau erbyn hyn) yn gyflym iawn ac mae’r Cynllun Ailgylchu Strategol (£15.8 miliwn ar gyfer partneriaethau strategol) yn dilyn yr un drefn. Erbyn 2005, bydd dros hanner o gyllid y Gronfa honno wedi’i ddosbarthu.

Ffynonellau cyllid eraill

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Mae partneriaeth Cylch â’r Cyngor yn golygu fod aelodau Cylch yn gallu cael cyngor a chymorth cyllid yn uniongyrchol gan y Cyngor. Mae’n gweinyddu nifer o grantiau Ewropeaidd addas ar gyfer y sector amgylcheddol.

0870 607 1666 yw rhif llinell gymorth y Cyngor. Mae ei wefan yn cynnwys llwyth o ddalenni gwybodaeth defnyddiol, ffurflenni cais a chyfarwyddyd ar grantiau addas megis y Gronfa Risgiau Cymdeithasol, ENFYS - Mynediad i ofodau agored a’r Cynllun Ailgylchu Strategol.

Amgylchedd Cymru
Mae Cylch yn un o bartneriaid craidd menter Amgylchedd Cymru ac yn cyfrannu at y rhwydweithiau sy’n cynnal ei hamcanion fel corff datblygu cynaladwy; wrth helpu i ddatblygu cymunedau cynaladwy drwy gyfrwng gwaith amgylcheddol ar y cyd. Mae Cylch yn cyflogi Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru a’i rôl, ymhlith eraill, yw helpu projectau ailgylchu i gael cyllid gan Amgylchedd Cymru.

Mae grantiau Amgylchedd Cymru yn cynnwys:

  • grantiau sefydlu
  • grantiau cyn-project
  • grantiau cymorth hyfforddi
  • grantiau projectau
Am fanylion pellach am Amgylchedd Cymru – cysylltwch â Eifion Williams.

Cyrff eraill
Rhai o’r cyrff eraill sy’n dyrannu cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol:
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Awdurdod Datblygu Cymru
Bwrdd Croeso Cymru
Prince's Trust – Cymru
Cronfa ‘Gwirfoddoli yng Nghymru’ WCVA

Cyllid Ewropeaidd
Darperir gwybodaeth ar gyfleoedd cyllid Ewropeaidd yn y
Handbook for Environmental Project Funding.

Os bydd aelodau Cylch angen cymorth cyllid dylent gysylltu â’u Swyddog Datblygu Rhanbarthol.  ESF logo             Objective 1 logo



Tudalen wedi ei ddiweddaru ar Hydref 26ed 2005

click here to view the full list of member benefits

Cylch Conference 2005


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53