Hyfforddiant
Mae Cylch yn cyfeirio, yn hwyluso, ac yn darparu amrywiaeth eang o hyfforddiant ar gyfer sefydliadau sy’n aelodau. Mae Cylch yn cynnig cyrsiau hyfforddiant sydd wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion aelodau, ac yn gwella arferion busnes a gwasanaethau.
Bwriad Cylch yw rhoi’r sgiliau a’r safonau ansawdd angenrheidiol i’r aelodau fel eu bod mewn sefyllfa gryfach o ran cyflwyno ceisiadau am arian a thendro am gontractau.
Mae aelodau yn gymwys i dderbyn prisiau gostyngol . I gael rhagor o wybodaeth ynghylch hyn, cysylltwch â ni.
Mae hyfforddiant Cylch wedi cynnwys:
- Cyfrifo cymdeithasol
- Marchnata a’r cyfryngau
Mae hyfforddiant yn y gorffennol wedi cynnwys:
Digwyddiadau
Prif ddigwyddiad blynyddol Cylch yw Cynhadledd Cylch sy’n cael ei chynnal yng Nghymru yn flynyddol, a’r bwriad yw delio â materion sy’n berthnasol i’r sector. I gael rhagor o fanylion am gynlluniau cyfredol Cylch ar gyfer y gynhadledd, cliciwch yma.
Noder: Mae gan bob aelod yr hawl i gael mynediad at yr hyfforddiant a’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan, neu drwy Rwydwaith Ailgylchu Cymunedol y D.U (CRN UK).
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 11 Medi 2008