Prosiect Ailgylchu mewn digwyddiadau yng Nghymru Mae Cynllun Ailgylchu Mewn Digwyddiadau yng Nghymru nawr ar gael! I gael eich copi, cysylltwch â Ruth Llewellyn drwy ffonio 029 20647950
Cliciwch yma am fersiwn PDF o’r Cynllun
Mae nifer y digwyddiadau sy’n gweithio gyda’r prosiect hwn yn parhau i gynyddu, ac mae’n argoeli y bydd 2008 hyd yn oed yn fwy prysur na llynedd. Bydd y rhaglenni ailgylchu yn Sioe Frenhinol Cymru, yn enwedig, yn darparu ar gyfer maes y sioe yn gyfan gwbl, a bydd rhagor o wasanaethau ar gael ar gyfer masnachwyr a chwmnïoedd arlwyo.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch Prosiect Ailgylchu mewn Digwyddiadau yng Nghymru, cysylltwch â Ruth Llewellyn, y Swyddog Ailgylchu mewn Digwyddiadau drwy ffonio , 02920 649750.
Y Cefndir
Mae Prosiect Ailgylchu mewn digwyddiadau yng Nghymru, yn brosiect sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a ddechreuodd yng Ngorffennaf 2006. Cylch, rhwydwaith ailgylchu Cymru sy’n cynnal y Prosiect, ac yn cynnal y swydd. Prif amcan y prosiect yw cynorthwyo a chynghori trefnwyr digwyddiadau, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector gwirfoddol ar weithredu systemau ‘arfer gorau’ o ran systemau ailgylchu mewn digwyddiadau yng Nghymru.
Y partner allweddol yw Craff am Wastraff Cymru, sy’n cydlynu’r ymgyrch Ailgylchu dros Gymru, ac sy’n gyfrifol am gynhyrchu'r holl eitemau hyrwyddo â brand ar gyfer y prosiect.
Gan fod yr holl ddeunyddiau hyrwyddo yn defnyddio ‘r brand Cenedlaethol, mae’n darparu neges ailgylchu sy’n gyson ledled Cymru, lle bynnag y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal
Gall y prosiect ddarparu gwybodaeth ymarferol a chefnogaeth ar gyfer trefnwyr digwyddiadau ar sut mae cynnal digwyddiad llwyddiannus gan ddefnyddio cynlluniau ailgylchu llwyddiannus, yn ogystal ag eitemau o adeiladwaith. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
Biniau – rhai bach a mawr
Labeli ar gyfer biniau sy’n nodi p ddeunyddiau sydd i’w rhoi ym mha finiau
Baneri – i’w defnyddio gyda biniau ailgylchu er mwyn dangos eu lleoliad
Arwyddion hyrwyddo mawr a ellir eu gosod o gwmpas arwydd y digwyddiad yn hyrwyddo’r ffaith fod yna raglenni ailgylchu ar waith .
Ers dechrau’r prosiect, mae dros bedwar deg o ddigwyddiadau yng Nghymru wedi derbyn cymorth, gan gynnwys rhai digwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Ryngwladol, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiadau a drefnwyd gan Awdurdodau lleol, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau llai.
Digwyddiadau
Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru
2008 oedd y drydedd flwyddyn i’r prosiect weithio gyda’r sioe er mwyn gweithredu cynlluniau ailgylchu. Eleni, roedd y cynlluniau yn ymestyn er mwyn cynnwys mwy o faes y sioe, a bydd casgliadau ychwanegol ar gael ar gyfer masnachwyr a chwmnïoedd arlwyo.
Ffactor pwysig yn y cynllun rheoli gwastraff yw’r amod fod yn rhaid i gwmnïoedd arlwyo ddefnyddio pecynnau bwyd bioddiraddadwy. Bydd hyn yn cael ei gasglu gyda’r gwastraff bwyd ac yn cael ei gompostio.
Ffactor pwysig yn y cynllun rheoli gwastraff yw’r amod fod yn rhaid i gwmnïoedd arlwyo ddefnyddio pecynnau bwyd bioddiraddadwy. Casglwyd hyn gyda’r gwastraff bwyd ac yn cael ei gompostio.
Dyma’r gwasanaethau ailgylchu a oedd ar gael yn y Sioe:
Bydd biniau ailgylchu mewn deg lleoliad, gan gynnwys y cwmnïoedd arlwyo, y meysydd picnic, yn ogystal â biniau unigol o gwmpas y maes.
Bydd casgliadau gwydr, caniau, poteli, cardfwrdd, gwastraff bwyd, a phecynnau bwyd, yn digwydd yn ddyddiol.
Rhan bwysig o lwyddiant ailgylchu mewn digwyddiadau yw sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r cyfleusterau ailgylchu sydd ar gael, a’u bod yn deall sut i’w defnyddio. Eto, roedd Wardeiniaid Ailgylchu yn bresennol bob dydd yn yr ardaloedd ailgylchu er mwyn siarad â’r cyhoedd, a’u haddysgu am y cyfleusterau sydd ar gael yn y sioe.
Bydd yr adroddiad gwerthuso’r cynlluniau ailgylchu ar gyfer y Sioe ar gael yn fuan.
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Seiliwyd y cynlluniau yn 2008 ar y cynlluniau yn 2007, gyda gwelliannau i gasgliadau, ac estyn i feysydd eraill yn y digwyddiad, er enghraifft, arlwywyr cefn tŷ.
Datblygiadau eraill
Ar hyn o bryd mae’r Prosiect Ailgylchu mewn Digwyddiadau yng Nghymru yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau a threfnwyr digwyddiadau er mwyn cynnwys ailgylchu mewn mwy o ddigwyddiadau yng Nghymru. Un prosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu yw ymchwilio a datblygu cynlluniau newydd ar gyfer biniau ailgylchu mewn digwyddiadau.
Digwyddiadau Eraill
Mae’r Prosiect Ailgylchu mewn Digwyddiadau yng Nghymru bellach yn gweithio gyda nifer o sefydliadau a threfnwyr digwyddiadau i gynnwys ailgylchu mewn mwy o ddigwyddiadau Cymreig. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o Awdurdodau Lleol a grwpiau cymunedol yn gweithredu cynlluniau ailgylchu mewn digwyddiadau amrywiol, Sioeau’r Sir, gwyliau cerddoriaeth, gwyliau balwnau a Sioeau Gerddi.
Prosiect Ailgylchu mewn Digwyddiadau Bach
Prif nod ac amcanion y project hwn yw cynyddu gwirfoddoli, lleihau gwastraff ac ailgylchu, a chynyddu ymwybyddiaeth ailgylchu mewn digwyddiadau yng Nghymru. Gellir gwneud cais am arian drwy’r prosiect er mwyn cyflwyno ailgylchu mewn digwyddiadau bach. Ariannir y prosiect gan Amgylchedd Cymru.
Caiff y rhan fwyaf o ddigwyddiadau bach eu trefnu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr lleol ac felly byddant yn rhan hanfodol o unrhyw gynllun ailgylchu llwyddiannus. Rhan allweddol o feini prawf y prosiect yw’r angen i ddangos buddion i’r gymuned leol drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr lleol a chydweithio â grwpiau ailgylchu cymunedol.
Bydd trefnwyr sy’n cofrestru’n llwyddiannus gyda’r Project yn cael strwythur arbennig er mwyn cynllunio ailgylchu mewn digwyddiadau ac yn gallu defnyddio pecyn cymorth. Bydd yn cynnwys deunyddiau hyrwyddo, arwyddion a biniau yn nodi ‘Ailgylchu dros Gymru’ arnynt. Os ydych â diddordeb i wneud cais am arian drwy’r prosiect, cysylltwch â Ruth Llewellyn, Swyddog Ailgylchu mewn Digwyddiadau, 029 2064 9750.