View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAnnual ReportBoard of TrusteesOur Business Plan documentationView Cylch's environmental policy Our Welsh Language PolicyThe Cylch teamAbout the Cylch servicesLatest news from CylchConference informationMembers area sign in and details

Polisi Amgylcheddol

Cenhadaeth Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru) yw Hyrwyddo rheolaeth adnoddau cynaliadwy drwy addysg a gweithredu ymarferol.  Amcanion Cylch yw datblygu rhwydwaith genedlaethol o sefydliadau ailgylchu cymunedol; darparu cefnogaeth o ansawdd i aelodau; gosod y sector ailgylchu cymunedol fel partner hanfodol yn nyfodol rheoli gwastraff yng Nghymru; a sefydlu Cylch fel menter gymdeithasol enghreifftiol.

Mae Cylch yn annog cymunedau i fod yn gyfrifol am faterion gwastraff ac yn credu y dylai deunyddiau gwastraff gael eu gweld fel adnodd, a thrwy adfer yr adnodd hwnnw, ddarparu cyflogaeth i bobl leol.  Ar hyn o bryd mae Cylch yn cynrychioli mwy na 60 o brosiectau cymunedol drwy Gymru.

Nod Cylch yw hyrwyddo safonau amgylcheddol uchel yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys ymddiriedolwyr, aelodau staff, contractwyr a phartneriaid yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat.

Mae Cylch yn gwerthfawrogi fod ei weithgareddau yn cael effaith ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang ac mae wedi ymrwymo i atal llygredd wrth gynnal ei weithgareddau ac i barhau i wella ansawdd amgylcheddol ei weithrediadau, prosesau a gweithgareddau.

Amcanion Cylch yw:

  • Cwrdd â neu ragori ar yr holl amodau deddfwriaeth amgylcheddol perthnasol
  • cymell staff i gefnogi a chyfrannu at raglen gwella’r amgylchedd, yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o bolisi amgylcheddol y cwmni
  • hyrwyddo gwarchod yr holl adnoddau drwy:
    - defnyddio adnoddau cynaliadwy a chynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu neu y gellir eu hailgylchu,
    - ailgylchu mwy o ddeunyddiau,
    - gostwng y defnydd o adnoddau megis dŵr, ynni a phapur, lle’n ymarferol, a
    - monitro ac adolygu’r defnydd o drafnidiaeth
  • adolygu’r polisi hwn yn flynyddol a’i ddiweddaru os bydd angen
  • gweithredu’r camau a nodir yn ein Cynlluniau Gwella’r Amgylchedd.

Dyddiad: 02/03/06
Cyhoddiad:3

Polisi Prynu Amgylcheddol
Yn ogystal, mae Cylch wedi cynhyrchu Polisi Prynu Amgylcheddol.

Amcan
Amcan y polisi hwn yw sicrhau, lle bo’n briodol, bod nwyddau a gwasanaethau a brynwyd ar gyfer, ac ar ran Cylch wedi cael eu gwneud, dosbarthu, defnyddio a’u rheoli ar ddiwedd eu hoes mewn dull sy’n gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd.
Maes
Dylai’r polisi hwn fod yn berthnasol, lle bo’n bosibl, i holl benderfyniadau prynu a wneir gan staff Cylch a gwirfoddolwyr sydd wedi eu lleoli yn swyddfa Caerdydd.  Yn ogystal, mae’r polisi hwn yn berthnasol i staff Cylch sydd y tu allan i swyddfa Caerdydd.  Fodd bynnag, deallwn fod rhai penderfyniadau prynu y tu allan i reolaeth staff Cylch.

Materion Allweddol
Y materion allweddol y cyfeirir atynt yn y polisi hwn yw:

  • yr angen i ddatblygu egwyddorion sy’n ymwneud a phrynu pethau i Cylch er mwyn cefnogi Polisi Amgylcheddol Cylch
  • yr angen i barhau i wella perfformiad amgylcheddol Cylch
  • yr angen i osod esiampl o ymarfer gorau i Aelodau a sefydliadau'r bartneriaeth.

Gweithredu
Gweithredir y polisi hwn drwy hyfforddiant priodol a chyfathrebu’r egwyddorion allweddol ynglŷn â’r drefn o brynu.  Lleolir copi o’r polisi prynu yn ffolder y Ddraig Werdd (swyddfa Caerdydd) ac ar weinyddwr cyfrifiadurol y cwmni.
Gwerthusiad ac Adolygiad
Adolygir a diweddarir y polisi hwn yn flynyddol.

Diweddarwyd: 24 Mai 2006

click here to view the full list of member benefits

Cylch Conference 2005

 


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53