Dydd Mawrth, Hydref 21ain - Dydd Mercher, Hydref 22ain
Gwesty’r Marriot, Caerdydd
Siaradwyr gwadd sydd wedi eu cadarnhau:
Jonathon Porrit, Cadeirydd Comisiwn Datblygiad Cynaliadwy y D.U
Jane Davidson, y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae cynhadledd Cylch yn ddyddiad pwysig ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gwastraff ac ailgylchu yng Nghymru. Fel yr unig gynhadledd sy’n trafod rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy, mae’r gynhadledd yn rheolaidd yn denu dros 200 o gynrychiolwyr o’r sector cymunedol, y sector preifat, a’r sector cyhoeddus.
Gan ddarparu cyfleoedd i rwydweithio arbennig o dda, mae’r gynhadledd yn dod â phobl at ei gilydd er mwyn rhannu gwybodaeth a dysgu gan ei gilydd. Mae’r gynhadledd bob amser yn llawn gwybodaeth ddiddorol, yn bryfoclyd, ac yn gwarantu y bydd yn taclo unrhyw faterion sy’n wynebu’r sector heddiw er mwyn cynnal dyfodol ar gyfer ailgylchu.
Mae’r gynhadledd hefyd yn llwyfan ar gyfer Gwobrwyon Ailgylchu Cymru lle mae sefydliadau ar draws Cymru yn cael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad i’r sector ailgylchu.
Adborth o gynhadledd Cylch 2007
‘Arweinydd gwych, a helpodd ni i gael y mwyaf o’r gynhadledd.’
‘Testun trafod perthnasol iawn.’
‘Roedd amrywiaeth a chynnwys ysesiynnau syrjeri yn wych.’
‘Cydbwysedd da, trefniadau da wedi eu gweithredu’n dda, a phopeth yn rhedeg yn esmwyth..’
'Arbennig o dda ar gfyer rhwydweithio- sefydlwyd cysylltiadau'
Cynhadledd Cylch 2007
Cynhadledd Cylch 2006
Cynhadledd Cylch 2005
Cynhadledd Cylch 2004
Diweddarwyd: 3 Gorffenhaf 2008