View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAbout CylchThe Cylch teamAbout the Cylch servicesLatest news from CylchCylch conference informationConference programmeDelegate registrationExhibition & SponsorhsipConference accommodationConference mapWales recycling awardsMembers area sign in and details


Map

Cynhelir cynhadledd Cylch 2007 yn
 
Gwesty’r Marriott
Lôn y Felin
Caerdydd
CF10 1EZ

Cliciwch yma ar gyfer lleoliad y gynhadledd.


Teithio

Bydd Cylch yn cyfrifo beth fydd Ôl-troed Ecolegol llawn cynhadledd 2007, a fydd yn cynnwys cofnodi dulliau teithio cynadleddwyr.

Yng nghynhadledd Cylch 2006, roedd dulliau teithio’r cynadleddwyr yn gyfrifol am ryddhau dros 5 tunnell o CO2 i’r awyrgylch.
Roedd 73% o’r milltiroedd a deithiodd y cynadleddwyr mewn ceir a thacsis, ond cyfrannodd hyn 92% o gyfanswm y CO2 a ryddhawyd ar gyfer teithio.  Deallwn nad oedd y lleoliad llynedd yn gyfleus iawn ar gyfer cludiant cyhoeddus, ac felly, roedd hwylustod o safbwynt cludiant cyhoeddus yn flaenoriaeth bennaf gennym eleni.
Taith 10 munud o gerdded yn unig yw Gwesty’r Marriott, Caerdydd o’r brif orsaf trên a bws, a byddwn yn cynllunio ein rhaglen o gwmpas amseroedd trên a bws.  Felly, rydym yn annog bob cynadleddwr i ddefnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn lleihau cyfanswm y CO2 sy’n cael ei ryddhau mewn perthynas â'r gynhadledd, a thrwy hynny leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Bws
Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd   (800 m, 10 munud o gerdded)

Trên
Canol Caerdydd  (800 m, 10 munud o gerdded)

Car
Os nad oes gan gynadleddwyr ddewis arall heblaw defnyddio car, rydym yn eu hannog i geisio rhannu car gyda chynadleddwyr eraill o’r un ardal lle bo hynny’n bosibl.

Cyfarwyddiadau
Gadewch yr M4 ar gyffordd 29 ac ewch ar yr A48M. Dilynwch yr A48M Dwyrain tuag at Fae Caerdydd. Dewch oddi ar yr A48M ar allanfa Llanedeyrn a Heol Casnewydd, a dilyn yr arwyddion tuag at Ganol y Ddinas. Arhoswch yn y lôn ganol, ac wrth y goleuadau traffig nesaf, ewch yn syth ymlaen ar Heol Casnewydd am 3 milltir, gan ddilyn yr arwyddion am Fae Caerdydd.  Dilynwch yr heol tan i chi i gyrraedd set o oleuadau traffig, yn syth ar ôl mynd o dan bont rheilffordd a throwch i’r chwith, gan ddilyn y ffordd heibio Gorsaf Drenau Stryd y Frenhines. Wrth y goleuadau traffig, trowch i’r chwith a dilyn y ffordd am 600 llath a throi i’r dde wrth y goleuadau traffig.  Wrth y set nesaf o oleuadau traffig, ewch i’r chwith ac ewch o dan y bont. Wrth yr 2il set o oleuadau traffig, trowch i’r dde a dilyn y ffordd at y gylchfan.  Cymrwch yr 2il allanfa oddi ar y gylchfan ac ewch dan bont y rheilffordd. Wrth y goleuadau nesaf, trowch i’r dde i mewn i Mill Lane. Mae’r fynedfa i Westy’r Marriott, Caerdydd 100 llath ymlaen ar eich ochr dde. Trowch i’r dde i mewn i’r gwesty, a dilynwch y ramp i’r maes parcio.



Diweddarwyd: 27 Medi 2007

click here to view the full list of member benefits


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53