View useful links page Change language to Welsh
Contact the Cylch team Search for Cylch members in your area

 

Cylch home pageAbout CylchThe Cylch teamAbout the Cylch servicesLatest news from CylchCylch conference informationConference programmeDelegate registrationExhibition & SponsorhsipConference accommodationConference mapWales recycling awardsMembers area sign in and details

 Hydref 21ain 2008
Gwesty’r Marriott, Caerdydd 

Mae Cylch, Rhwydwaith Ailgylchu cymunedol Cymru, yn falch i gyhoeddi manylion ail seremoni Gwobrwyon Ailgylchu Cymru, a fydd yn gwobrwyo rhagoriaeth  mewn ailgylchu yng Nghymru.

Bydd y gwobrwyon yn cael eu cyflwyno yng nghinio cynhadledd flynyddol Cylch eleni (yr 11eg i’w chynnal). Bydd y gwobrwyon yn cael eu cyflwyno gan Jane Davidson AC, yr aelod o Lywodraeth y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am Gynaliadwyedd a Thai. 

Bydd panel arbenigol o blith hapddalwyr allweddol yn y maes ailgylchu yng Nghymru yn llunio rhestr fer derfynol, gyda thri enwebiad yn y rownd derfynol ymhob categori. Bydd y penderfyniad mawr ynghylch pwy yw’r enillydd yn cael ei roi i chi. Byddwch yn gallu pleidleisio ar lein a thrwy’r post.


Bydd yr enwebiadau hynny sy’n cyrraedd y rhestr fer yn derbyn dau le yn rhad ac am ddim yng nghinio’r gynhadledd a chyflwyniadau’r gwobrau.

Categorïau’r Gwobrau:

Gwobr Ailgylchwr y Flwyddyn, Noddwyd gan Novelis

Gwobr ariannol £2000 cash prize

Mae’r wobr hon yn agored i holl Aelodau Cyflawn Cylch  a bydd gwobr i’r sefydliad sydd wedi dangos yr agweddau gorau o ran y canlynol: cynaliadwyedd, buddion cymdeithasol, ymwneud cymunedol, dargyfeirio deunyddiau o safleoedd tirlenwi, neu gyflwyno neges gref iawn ynghylch ailgylchu drwy farchnata a hyrwyddo arbennig.

Gwobr Arloesi
Gwobr ariannol o £2000 neu wobr gyfwerth, Noddwyd gan Baylis Recycling

 

Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw sefydliad neu gwmni sy’n weithredol yng Nghymru, a bydd yn gwobrwyo’r rheiny sydd wedi datblygu prosiect, cynnyrch, gweithgaredd neu wasanaeth arloesol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Gwobr Partneriaeth Awdurdod Lleol, Noddwyd gan Yell

Mae’r wobr hon yn agored i’r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Bydd y wobr yn cael ei rhoi fel cydnabyddiaeth am waith mewn partneriaeth yn eu cymunedau lleol. 

Er mwyn cystadlu:
 
Nid oes enwebiadau yn cael eu derbyn ar hyn o bryd ar gyfer Gwobrwyon Ailgylchu Cymru. Cadwch lygad ar agor am ragor o fanylion!

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, neu am gyfleoedd i noddi, cysylltwch â:

Kath Hilsden
Swyddog Digwyddiadau
Ffôn: 029 2064 9750
E-bost:
kath.hilsden@cylch.org.uk


I lwytho copi o’r ffurflen enwebu i lawr, rhowch glec yma

Rhowch glec yma am y fersiwn Gymraeg

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener Medi 8 am 5pm,
ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried


Page updated: 18th July 2008

click here to view the full list of member benefits


©2005 Cylch | All rights reserved
terms and conditions | privacy policy | mail@cylch.org.uk
Cylch, 113 Cathedral Road, Cardiff, CF11 9PH
VAT no: 800 5584 53