Statws
Mae arian craidd Cylch yn dod o Lywodraeth Cynulliad Cymru
Cenhadaeth:
Hyrwyddo dulliau rheoli adnoddau cynaliadwy drwy gyfrwng addysg a chamau ymarferol.
Amcanion:
- datblygu rhwydwaith cenedlaethol mudiadau ailgylchu cymunedol
- darparu gwasanaeth cefnogi o ansawdd i Aelodau
- sefydlu’r sector ailgylchu cymunedol fel partner cydradd yn nyfodol rheoli gwastraff yng Nghymru
- arwain trwy osod esiampl
Strwythur Cylch
Mae 16 Ymddiriedolwr yn eistedd ar Fwrdd Cylch, a recriwtiwyd o’r sefydliadau sy’n Aelod gan gynnwys y Prif Weithredwr, Mal Williams. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd i benderfynu ar bolisïau a chyfeiriad y sefydliad.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn eistedd ar y Bwrdd am gyfnod o dair blynedd. Pob blwyddyn, rhyddheir traean o’r Ymddiriedolwyr o’u dyletswyddau (er bod posibilrwydd y cânt eu hail-ethol). Gwneir enwebiadau etholiad i’r Bwrdd unwaith y flwyddyn cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Hysbysir pob Aelod Llawn Cylch o’r cyfle i gynnig enwebiad a sut i wneud hynny. Gofynnir i bob Ymddiriedolwr i arwyddo datganiad diddordeb. Cliciwch yma am y Bwrdd Ymddiriedolwyr cyfredol neu am ddisgrifiad swydd ymddiriedolwr.
Arferion gweithredu
Ymgeisia Cylch arwain trwy osod esiampl wrth ddilyn pregeth ein hunain. Rydym yn cynnal ac yn bwriadu cadw amrywiaeth o safonau rheoli ac ymgeisiwn i fod yn gyflogwr da, wrth asesu ein systemau rheoli a llywodraethu mewnol yn rheolaidd, ymgynghori â hapddalwyr i brofi ac arbrofi ein gwasanaethau ac ymdrechu i gynnal annibyniaeth gyllidol.
Mae Cylch yn awyddus i sicrhau amgylchedd gwaith iachus ac amgylcheddol gyfrifol i’r holl staff, ac mae eu hymdrechion wedi’u cydnabod gan Buddsoddwyr mewn Pobl a safon rheoli amgylcheddol y Ddraig Werdd. I gael copi o bolisi amgylcheddol Cylch – cliciwch yma.
Iaith Gymraeg
Mae Cylch wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ble bynnag fo’n bosibl. Am gopi o bolisi iaith Gymraeg Cylch - cliciwch yma.
Cyllid Cylch
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n darparu’r cyllid craidd sy’n galluogi Cylch a’i Aelodau i fod yn rhan integrol o strategaeth wastraff Cymru.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 29 Medi 2008